Tudalen 1 o 5

Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 10:56 pm
gan Hedd Gwynfor
Dyma 2 jpeg bach fi newydd wneud, ac mae croeso i chi osod un o'r 2 ar eich blog/gwefan os chi moyn helpu hyrwyddo maes-e gyda'r nôd o ddenu aelodau newydd. Dwi'n siwr gallwch chi feddwl am eiriad a chynllun gwell, felly atodwch unrhyw gynlluniau isod.

Delwedd

I osod hwn ar eich gwefan neu flog, defnyddiwch y côd html canlynol:

Cod: Dewis popeth
<a href="http://maes-e.com"><img src="http://maes-e.com/images/maes-e150x150.jpg" alt="maes-e" /></a>


Delwedd

I osod hwn ar eich gwefan neu flog, defnyddiwch y côd html canlynol:

Cod: Dewis popeth
<a href="http://maes-e.com"><img src="http://maes-e.com/images/maes-e468x60.jpg" alt="maes-e" /></a>

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:07 pm
gan nicdafis
Syniad da! Dw i'n lico'r ffordd ti wedi neud y maes i swnio fel cyffur. ;-)

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:17 pm
gan Hedd Gwynfor
nicdafis a ddywedodd:Syniad da! Dw i'n lico'r ffordd ti wedi neud y maes i swnio fel cyffur. ;-)


:lol:

Dere mlaen Nic, rho gynnig ar un gwell!

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Maw 22 Ion 2008 11:48 pm
gan 7ennyn
:o Dwi newydd gofio bod yna archeb banc yn mynd o fy nghyfrif bob mis i helpu Nic redeg y peth 'ma. Mae'r musus yn amau bod rhywyn yn fy blacmeilio!

Ddyliwn i drosglwyddo'r archeb i ti Hedd, neu ei gadw fel mae o?

(Pryna beint o mild rhad i ti dy hun hefo'r taliad diwethaf Nic! :winc:)

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 23 Ion 2008 12:15 am
gan Hedd Gwynfor
7ennyn a ddywedodd::o Dwi newydd gofio bod yna archeb banc yn mynd o fy nghyfrif bob mis i helpu Nic redeg y peth 'ma. Mae'r musus yn amau bod rhywyn yn fy blacmeilio!

Ddyliwn i drosglwyddo'r archeb i ti Hedd, neu ei gadw fel mae o?

(Pryna beint o mild rhad i ti dy hun hefo'r taliad diwethaf Nic! :winc:)


Credu fod y drefn yna wedi hen orffen! Yr unig ffordd o gefnogi maes-e yn ariannol yn awr ydy trwy brynu hysbyseb. :D

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 11:08 pm
gan Hedd Gwynfor
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dyma jpeg bach fi newydd wneud, ac mae croeso i chi osod hwn ar eich blog/gwefan os chi moyn helpu hyrwyddo maes-e gyda'r nôd o ddenu aelodau newydd.


Delwedd

I osod hwn ar eich gwefan neu flog, defnyddiwch y côd html canlynol:

Cod: Dewis popeth
<a href="http://maes-e.com"><img src="http://maes-e.com/images/maes-e150x150.jpg" alt="maes-e" /></a>

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 11:18 pm
gan Hedd Gwynfor
Neu Beth am hwn?

Delwedd

I osod hwn ar eich gwefan neu flog, defnyddiwch y côd html canlynol:

Cod: Dewis popeth
<a href="http://maes-e.com"><img src="http://maes-e.com/images/maes-e468x60.jpg" alt="maes-e" /></a>

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Maw 29 Ion 2008 12:45 am
gan Mali
Wedi ei wneud ...edrych yn dda hefyd . 8)
Wnês i ddim sylweddoli tan heddiw fod yr hen linc oedd gen i ar y blog wedi diflannu . :wps:

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Maw 29 Ion 2008 9:56 am
gan Hedd Gwynfor
Mali a ddywedodd:Wedi ei wneud ...edrych yn dda hefyd . 8)
Wnês i ddim sylweddoli tan heddiw fod yr hen linc oedd gen i ar y blog wedi diflannu . :wps:


Diolch yn fawr Mali. Byddai'n wych pe byddai dy ffrindiau yng Nghanada a'r UDA yn gallu gwneud yr un peth. :winc:

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 8:40 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Diddorol. Tybed faint fyddai hysbyseb tudalen llawn yn e.e. Daily Post neu Western Mail yn ei gostio? Byddem yn fodlon chipio mewn a gwneud cyfraniad ariannol bach.