Tudalen 2 o 5

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 8:41 pm
gan Macsen
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:Diddorol. Tybed faint fyddai hysbyseb tudalen llawn yn e.e. Daily Post neu Western Mail yn ei gostio? Byddem yn fodlon chipio mewn a gwneud cyfraniad ariannol bach.

Lot fawr, a fydde na'm pwynt. Mae pawb sydd eisiau defnyddio Maes-e arna fo'n barod.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 8:50 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Mwy na £500 efallai? Dwn im.
Dim pwynt? Wel, efallai mai'r ffordd mwya effeithiol i ddenu mwy o aelodau yw drwy'r we. Ond pa mor aneffeithiol neu aflwyddiannus fyddai hysbyseb yn y papurau newydd a enwyd uchod? Miloedd o Gymry Cymraeg yn darllen DP a WM am wn i- llawer iawn mwy na e.e. Golwg neu Y Cymro. Hysbyseb llawn dychymyg sy'n denu sylw y boi sy'n cael cip olwg ar y papur tra'n trafeilio i'r gwaith neu darllen mymryn o'r rag yn ystod ei awr ginio. Wedi meddwl, pa gylchgrawn sy'n trafod y we sy'n boblogaidd ac sydd yn eitha rhesymol o ran hysbysebu?

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 8:53 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Macsen a ddywedodd:Mae pawb sydd eisiau defnyddio Maes-e arna fo'n barod.

Ni fyddai Hedd Gwynfor (gweler uchod) yn cytuno gyda'r sentiment y tu ol i dy frawddeg. Y lefel nesaf.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 9:09 pm
gan Macsen
Yn sgil yr ail lansiad swn i'n meddwl mae denu yn ol hen ddefnyddwyr yw'r nod - mae'r maes wedi edwino rywfaint yn ddiweddar, fel mae'r ystadegau yn ei ddangos. Ond dwi'n amau bod yna lot o Gymru Cymraeg allan 'fan na' sydd ddim yn ymwybodol o'r Maes, heblaw a Gymru dramor.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 9:31 pm
gan ger4llt
Macsen a ddywedodd:Mae pawb sydd eisiau defnyddio Maes-e arna fo'n barod.


Newydd fod yn sgrolio yn fras drwy restr aelodau maes-e...ac yn sylweddoli nad yw canran sylweddol o'r 3196 aelod ar maes-e wedi postio unrhywbeth h.y. "Negeseuon - 0". Dwi methu dalld be di'r pwynt ymuno a'r maes pan do's ganddoch chi ddim i'w gyfrannu... :?

Newydd neud cyfrifiad bach wan...ma 1215 aelod o'r maes heb bostio unrhywbeth - ma hynna yn...38%. :ofn:
Ma 1910 aelod wedi postio llai na 5 neges (0 allan o 5 "blob" h.y.) . Ma' hynna yn 60%.
Ma 2172 aelod wedi postio llai na 10 neges. A ma' hynna yn 68%.

Ai aelodau yw rhain sy'n arbrofi gyda enwau defnyddiwr neu wbath? Neu jysd pobl sydd yn bwriadu cyfrannu i edau, ond yn...dwnim ofn eu bod am gael ateb cas falla gan aelodau sydd wedi hen arfer ar maes. :rolio: Dwnim wir.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 9:35 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Macsen a ddywedodd:Ond dwi'n amau bod yna lot o Gymru Cymraeg allan 'fan na' sydd ddim yn ymwybodol o'r Maes, heblaw a Gymru dramor.

Anghytuno efo chdi. Llwyth o Gymry Cymraeg sy'n byw yn y Fro Gymraeg, YN defnyddio y we-ond 90% o'r amser yn sbio ac yn ymweld a phethau yn yr iaith fain. Tydi mentro i'r byd Cymraeg arlein jyst ddim yn croesi eu meddwl yn aml iawn. Efallai eu bod yn hoffi sgwrsio a malu awyr ar ambell i fforwm Saesneg- jyst ddim wedi cysidro trafod pethau yn Gymraeg (ond ceir digon o amrywiaeth yma i blesio pawb- rhywbeth at ddant pawb)- pobl efallai nad ydynt yn teimlo'n ddigon hyderus i sgwennu yn eu mamiaith. Pe byddet yn sdopio e.e. 100 o siaradwyr Cymraeg (sydd hefyd yn mynd ar y we o bryd i'w gilydd) ar y stryd ac yn gofyn iddynt a ydynt wedi clywed am maes-e yna dwi ddim yn meddwl y byddai'r ffigwr yn uchel ofnadwy.

Pobl sydd ddim wedi bod yn e.e. JMJ, Pantycelyn a sydd ddim yn aelod o CYIG. Y Cofi Dre sydd ddim yn teimlo fod yr Eisteddfod Gen yn cynnig unrhywbeth iddo. Y boi o Shir Gar sydd ddim yn darllen llawer o lyfrau yn y Gymraeg- ond a fyddai (efallai) yn cael blas ar maes-e tasa fo ond yn penderfynu cofrestru un diwrnod. Y teip o bobl sydd ddim yn hardcore[i][/i]o ran y diwylliant Cymraeg, ond a fyddai yn cael sbort a sbri yma. Y gamp yw plannu'r hedyn, a gweld y peth yn blodeuo. Y teip sydd ddim yn gwylio llawer o ef-ffor-si, ond a fyddai, o bosib, yn mwynhau trafod rhaglenni Saesneg drwy gyfrwng y Gymraeg yma.


Yr Alltud- ni wn faint o siaradwyr Cymraeg sy'n byw y tu allan i Gymru. Gorau Cymro- Cymro oddi cartref. Y cyfan dduda i yw bod yna botensial aruthrol yn fama.

Syniad arall- byddai hysbyseb yn y C & D Herald (i'r Gogs) yn llawer rhatach, am wn i. Mae'r golofn lythyrau yn y papur yma wastad yn brysur- AC MAE'R MWYAFRIF O'R LLYTHYRWYR YN MEDRU'R GYMRAEG. Hysbyseb yn y papur sy'n pwyslesio nad oes raid ichi fod yn berffaith eich Cymraeg i ymaelodi- creoso i bawb. Pwyslesio'r ffaith y trafodir sawl pwnc lleol- perthnasol iawn i'r ardal. Mae'r bobl yma yn hoffi dadlau- ond mae colofn lythyrau wythnosol yn brofiad ara deg- mae mwy o mwy o bobl canol oed yn defnyddio'r we- cewch ddadlau yma hynny liciwch chi.
Yn olaf (am y tro)- faint o bobl myspace sydd yn medru'r Gymraeg, ac wedi sgwennu mymryn o Gymraeg ar eu tudalen arbennig, ond sydd ddim wedi clywed am maes-e?
Y teip sy'n dod o'r Fro Gymraeg, sydd ddim yn gwrando llawer ar gerddoriaeth Gymraeg. Y teip nad yw'n ddigon hyderus i gofrestru?
Hysbysebu'r fforwm mewn/ar rhywbeth prif ffrwd. Glyn Wise yn hyrwyddo'r peth- tasa'r boi yma wedi helpu i hyrwyddo'r peth am yr wythnosau 1af ar ol iddo ddod allan o'r ty yna byddai maes-e llawer mwy poblogaidd.
Ydi'r boi Rhydian 'na yn ffan?

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 10:11 pm
gan Hedd Gwynfor
Macsen a ddywedodd:Ond dwi'n amau bod yna lot o Gymru Cymraeg allan 'fan na' sydd ddim yn ymwybodol o'r Maes, heblaw a Gymru dramor.


Ti'n meddwl? :? Yn bersonol, fyswn i'n amau fod mwy na rhyw 1% o Gymry Cymraeg wedi clywed am faes-e. Yma ym Mhontyberem e.e., pe byddet ti'n gofyn o ddrws i ddrws (pentref gyda un o'r canrannau mwyaf o Gymry Cymraeg trwy Gymru, dros 85%) dwi ddim yn meddwl y fydde ti'n cwrdd ag un person (onibai am fi :winc: ) sydd wedi clywed am faes-e.

Dwi ddim yn siwr pa ffordd yw'r un gore o gyrraedd y bobl yma? Hysbyseb mewn Papur Bro? Taflen o ddrws i ddrws? :?

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 10:30 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dwi ddim yn siwr pa ffordd yw'r un gore o gyrraedd y bobl yma? Hysbyseb mewn Papur Bro?

Naci, Hedd. C & D Herald yn y ogledd-orllewin. Bangor & Anglesey hefyd? North Wales Chronicle? Duwcs, tybed faint o weithiau mae maes-e wedi cael ei grybwyll mewn unrhyw golofn lythyrau Eingl-Gymreig yn ystod bodolaeth y peth? Efallai y byddai hyn y rhatach na hysbyseb!!
Os di rhywun eisiau gweld mwy yn darllen llyfrau Cymraeg- yna mwy o lyfrau, cychgronnau a.y.y.b. yn Tesco.- y prif ffrwd. "Normaleiddio".
Glyn Wise- hwb fechan i'r Gymraeg- drwy "uchelseinydd" Prydeinig.
Tydi delwedd Papurau Bro ddim digon cwl! Mae'r ddelwedd yn uffernol o BORING ymysg canarn sylweddol o siaradwyr Cymraeg. Dwi ddim yn meddwl fod C & D Herald yn cwl chwaith- ond mae miloedd yn ei ddarllen- ac mae canran sylweddol yn medru'r Gymraeg.
Ppaur Eingl-Gymreig hefo colofn lythyrau prysur- arwydd fod nifer o'r darllenwyr yn hoffi dadlau. Pysgota mewn ffordd glyfar am y BRITHYLLS!!!

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 10:41 pm
gan eusebio
Mae o'n ôl ... :rolio:

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 10:50 pm
gan Macsen
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Yma ym Mhontyberem e.e., pe byddet ti'n gofyn o ddrws i ddrws (pentref gyda un o'r canrannau mwyaf o Gymry Cymraeg trwy Gymru, dros 85%) dwi ddim yn meddwl y fydde ti'n cwrdd ag un person (onibai am fi :winc: ) sydd wedi clywed am faes-e.

Dylwn i 'di bod yn gliriach. Dwi'n siarad am y math o bobol sy'n defnyddio'r we. Mae'n bosib y byddai hysbyseb mewn papur bro yn cyraedd lot o Gymru Cymraeg sydd ddim yn ymwybodol o'r Maes - ond y byddai lot o'r rheini yn stryglan i ddeall beth yw gwefan i ddechrau arni.

Dwi'n yn meddwl bod yna lot o Gymru Cymraeg allan fan yna sy'r math o bobol fyddai'n defnyddio fforwm drafod gymraeg, sydd heb glywed am y maes, yw'r pwynt oni'n ceisio ei wneud.