Tudalen 3 o 5

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 12:02 am
gan krustysnaks
eusebio a ddywedodd:Mae o'n ôl ... :rolio:

Cofia am y botwm gelyn...

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 12:25 am
gan CarwynLloyd
Eisiau dod i hyd i mwy o gynulleidffa!!
Un gair "Facebook" ! Dwi wedi synnu yr miloedd a bron fy nheulu i gyd sydd yn defnyddio yr " system network" yma! Mae'n rhaid trio denu y pobol yma i defnyddio Maes- E! Dyma lle fyddwn i cychwyn yn fy strategaeth marchnata! Hefyd mae o am ddim!!

Does ddim angen gwario $$$$$ i hysbysebu. Dim ond trio meddwl allan o'r blwch! A fydda hysbysebu mewn papur lleol dim ond yn denu un neu dau os fydda ti lwcus!!!

Beth am datganiad i'r wasg am Maes-E! Mae danfon stori i papaurau newydd yn costio dim!!!!

Headlines
"Pen Blwydd Maes-E"
"Maes-E torri record nifer o aelodau" etc
Pa bynnag bachiad chi eisiau taflu!!!


Diolch i Nic am sefydlu y safle yma!
Ond rhaid dweud fod yr newidiadau yn wych a rwan does ddim angen i mi logio fiown pob blydi tro! Dwi gallu mynd iddo automatic!!


Daliwch ati!

Carwyn
Arizona

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 9:32 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
CarwynLloyd a ddywedodd:Eisiau dod i hyd i mwy o gynulleidffa!!
Un gair "Facebook" ! Dwi wedi synnu yr miloedd a bron fy nheulu i gyd sydd yn defnyddio yr " system network" yma! Mae'n rhaid trio denu y pobol yma i defnyddio Maes- E! Dyma lle fyddwn i cychwyn yn fy strategaeth marchnata! Hefyd mae o am ddim!!


Mae grwp Facebook Maes E eisoes yn bodoli.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 11:34 am
gan Macsen
Terry Pratchett a ddywedodd:A person's sanity is inversely proportional to the number of exclamation marks they use.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 11:54 am
gan CarwynLloyd
"Mae grwp Facebook Maes E eisoes yn bodoli."


Dwi gwybod hynny! Ond tydi hynny ddim mynd i fod o gymorth heblaw fod chi gofyn i aelodau facebook i trafod a pasio manylion Maes-E ymlaen! Problem cael tudalen a'r facebook ydi does ddim ffordd atgoffa ti o negesuon newydd! A dwi anghofio am yr tudalen heblaw wneith rhywun fy atgoffa!!!

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 12:33 pm
gan Rhys
CarwynLloyd a ddywedodd:Problem cael tudalen a'r facebook ydi does ddim ffordd atgoffa ti o negesuon newydd! A dwi anghofio am yr tudalen heblaw wneith rhywun fy atgoffa!!!


Sydd efallai'n profi pa mor ddiwerth iw grwpiau Facebook yn y pen draw.

O ran sut i ddenu aelodau newydd (ac atgoffa cyn aelodau), mae cael cyhoeddusrwydd mewn cyfryngau di-Gymraeg yn bwysig gan bod cynlleied yn darllen yn Gymraeg. Ond mae hyn yn andodd oni bai bod gwir sdori (awgrymaidau da gan Carwyn am sail storiau)

Er mor naff yw delwedd papurau bro, cefais fy siomi ar yr ochr orau wrth dddarllen y Bigwn (Dinbych) neu'r Bedol (Rhuthun) mis Rhagfyr gan bod erthygl am flogio ynddo a oedd am fod y cyntaf o gyfres o erthyglau am wefannau. Datblygiad da yn fy marn i, er doedd dim sôn am flogio'n Gymraeg, na chyfeiriad at y Blogiadur (i ddweud y gwir doedd dim cyfieriad at unrhyw wefan penodol na chyfeirad e-bost chwaith!). Felly, dwi'n meddwl bod gwerth targedu Papurau Bro a cheisio cael erthyglau y Golwg neu Y Cymro.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 2:22 pm
gan Tegwared ap Seion
Rhys a ddywedodd:
CarwynLloyd a ddywedodd:Problem cael tudalen a'r facebook ydi does ddim ffordd atgoffa ti o negesuon newydd! A dwi anghofio am yr tudalen heblaw wneith rhywun fy atgoffa!!!


Sydd efallai'n profi pa mor ddiwerth iw grwpiau Facebook yn y pen draw.


Mi fydda i wasdad yn defnyddio'r botwm "groups" sy'n dangos y 10 grwp mwya bywiog o'r rhai ti'n perthyn iddyn nhw.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 10:18 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
"145 ar Iau Awst 23, 2007 6:57 pm"- ar waelod y dudalen Hafan. Be ddigwyddodd? Pam? Sut? Unrhyw achlysur arbennig?

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 10:20 pm
gan Norman
Rhywbeth i neud efo google bots dwi meddwl oedd hwna, dim pobl go iawn ma gennai ofn !

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Iau 31 Ion 2008 10:36 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Rhys a ddywedodd:Felly, dwi'n meddwl bod gwerth targedu Papurau Bro a cheisio cael erthyglau y Golwg neu Y Cymro.

Dim byd o gwbl i'w golli drwy wneud hyn. Wedi meddwl- pam lai? Ond wrth son am C & D Herald- llawer gwell cael hysbyseb yma (neu llythyr clyfar, ffraeth- sy'n denu sylw ac ymateb) na targedu e.e. y Papurau Bro yn yr un ardal. Mae TRAFODAETH yn digwydd yn C & D Herlad- h.y. colofn lythyrau (ia, mewn iaith wahannol- ond Cymry Cymraeg yw'r mwyafrif o'r llythyrwyr).
Mae C & D Herald yn bapur BYWIOG- fel maes-e (wel, y potensial o leiaf). Hysbys i maes-e ar/yn rhywbeth sydd hefyd yn wirioenddol fywiog.
Gwastraff arian fyddai prynu e.e. hysbyseb un tudalen yn Golwg (mae'r maes wedi ei grybwyll sawl gwaith "wrth basio" ac hefyd yn fwy uniongyrchol)-mae'r fuwch yma wedi ei godro digon-dim mwy o laeth(?) Ond byddai hysbys AM DDIM yn iawn- dim byd i'w golli.