Tudalen 5 o 5

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Sad 02 Chw 2008 8:45 pm
gan 7ennyn
Dwi'n cytuno hefo'r Mwnci. Mae negesfyrddau sydd wedi mynd yn rhy fawr yn gallu bod yn hunllef i'w defnyddio.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Sad 02 Chw 2008 8:52 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Ond dwi'n siwr y byddai HG yn croesawu y "broblem" yma. Mae'n un o bwysigion CYIG. HG- cywira fi os dwi'n anghywir, ond ti eisiau gweld y peth yn mynd i'r lefel nesaf 'does?

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Sad 02 Chw 2008 11:13 pm
gan eusebio
Wylit, wylit Lywelyn a ddywedodd:... mynd i'r lefel nesaf ...


:ing: :ing: :ing:

Just defnyddia'r blydi thing fel mae o ... helpa wella'r trafodaethau - hynny sy'n mynd i ddenu mwy o bobl nid yr un hen blydi gan drosodd a throsdodd "gweledigaeth" "dychymyg" "potensial" "lefel nesaf" ... blydi hell!

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 11:38 am
gan krustysnaks
Be dwi'n gweld fwyaf od am dy negeseuon di ar maes-e, Martin, yw dy fod di'n sôn byth â hefyd am 'fynd i'r lefel nesaf' a datblygu maes-e i fod yn negesfwrdd bywiog ayyb, ond dwyt ti byth yn cyfrannu at unrhyw drafodaethau (heblaw am drafodaethau am drafodaeth fel hwn) a dangos barn ddiddorol a cyfrannu dy siâr di at wneud y lle yn fwy bywiog. Ti mond yn postio mewn edefau am Golwg ac am 'ddatblygu' maes-e - beth am i ti helpu'r datblygu drwy drafod dy hun.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 3:20 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Y?
Ffilm Der Untergang, Ennill yn Twicyrs, Brithyll, Be dwi'n ei ddarllen ar hyn o bryd...
Yndi, mae trafodaeth DDA yn bwysig. Mae cael y ffeithiau yn gywir yn rhan bwysig o hyn.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 5:25 pm
gan eusebio
Un neges mewn pedair edefyn arall ... trafod? Hardly ... fel sa'r Sais yn ei ddweud.

Ble mae dy uchelgais di?

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Llun 04 Chw 2008 11:33 am
gan Wylit, wylit Lywelyn
Ti'n disgwyl i mi ymateb i rwtsh fel yma? Sdicia i chwaraeon boi.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Llun 04 Chw 2008 11:57 am
gan Rhodri Nwdls
Och! Diflasdod.

Oes yna un maes-e mawr ar gyfer ieithoedd eraill Martin? Na. Ydi hi'n bosib cael trafodaeth efo pawb ar faes yr Eisteddfod? Nacdi. Mae cymunedau yn naturiol yn ffurfio mewn i grwpiau cyfyngedig er mwyn gwneud trsfod yn haws. Dyna yw natur cymdeithas! Yn y byd go-iawn ac ar-lein.

Cychwynna wefan drafod arall Martin os ti di laru cymaint efo hon. Fasa'n creu dyfodol iachach o lawer i drafodaeth Gymraeg ar-lein os lwyddith o. Dwi'n siwr fasa hynny'n rhan o "weledigaeth" Hedd hefyd (be dio proffwyd?! oedd na wartheg yn dy freuddwydion di neithiwr Hedd?).

Ac yn olaf. Stopia blydi swnian ar bobol eraill a gwna rwbath yn lle. Ti'n mynd ar y'n chwaps i.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Llun 04 Chw 2008 11:58 am
gan Mwnci Banana Brown
Ond pam wy ti moin gweld 50+ o bobol arlein yr un pryd?! So'r ffaith bod 50 o bobol arlein ar yr un pryd yn mynd i newid dim! Os ma'r 50 o bobol na yn ymweld a maes-e dros cyfnod o wthnos, yr un barn sy gyda pawb a'r un peth sy mynd i gal i weud.

Re: Cefnogi Maes-e

PostioPostiwyd: Llun 04 Chw 2008 8:58 pm
gan Wylit, wylit Lywelyn
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:Ond pam wy ti moin gweld 50+ o bobol arlein yr un pryd?!

Egni diwylliannol. Momentwm. Symud ymlaen. Rhywbeth Cymraeg ieithyddol sy'n lwyddiant ysgubol.
Mae giaffar newydd y maes yn ymwybobdl iawn o'r potenisal :D