Oes yna glic?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Oes yna glic?

Postiogan eusebio » Iau 02 Hyd 2003 2:37 pm

Ai fi sydd bod yn or-sensitif neu yw rhai o'r sgyrsiau ar y maes 'ma'n rhy 'in'?

Efallai mod i'n bod yn hen grymp, ond mae darllen un edyfen yn yr adran gerddoriaeth fel cerdded i fewn i byb a phawb yn mynd yn ddistaw ;)

Galwch i'n hen grymp anifir os da chi eisiau, ond dwi'n siwr fod bod rhy 'in' y mynd i stopio rhai pobl rhag ymuno â'r wefan wych 'ma.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan cythralski » Iau 02 Hyd 2003 2:42 pm

Mae'n tsiepach na defnyddio'r ffon tho yndydi?
...and you can tell 'Rolling Stone' magazine that my last words were....
Rhithffurf defnyddiwr
cythralski
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 595
Ymunwyd: Llun 24 Chw 2003 4:44 pm
Lleoliad: Ar goll yn y gofod

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 02 Hyd 2003 2:53 pm

Ella fod pwynt gennyt ti Eusebio. Ond ti dal yn hen grymp!
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 02 Hyd 2003 2:55 pm

Cytuno gyda ti, 'rhen Eusebio. Fe droiodd yr edefyn am gigs penwythnos diwetha' o drafodaeth gyffredinol i ryw dri neu bedwar person yn cael chin-wag. Trefnwch fore coffi y ffycars!

(Gyda llaw, fi newydd basio 500 o negeseuon, ac felly wedi ymuno a rhengoedd y Ffanaticiaid. Fi'n mynd i ladd fy hunan. :crio: )
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Buddug Trotter » Iau 02 Hyd 2003 3:22 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Trefnwch fore coffi y ffycars!


i pa le yr aeth y bore coffi,
gyda'i thombola thrwsgwl
a'i chwn poeth parod
a'r holl geiriach yn glwter
ar stondinau ein mamau
yn malu a pharablu
dros frechdan wy a choffi llugoer
i pa le yr aeth y bore hwnnw?

Duw Duw Gwahanglwyf Dros Grist, os ydi'r 'ogia isho trafod yr hwyl a fu yn absenoldeb rhai meyswyr grwmpi, pa ots? ond mae trefnu bore coffi yn syniad gwych
Ynfytyn hael a halia
I wlychu Gweflau Gwalia
Bid Idris ydyw'r rotter
A wlypodd Buddug Trotter
Buddug Trotter
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Llun 01 Medi 2003 12:32 pm
Lleoliad: Trons Tony Terfel

Postiogan eusebio » Sad 04 Hyd 2003 9:15 am

:rolio:

dwi yn grymp - Ylwch ...

:crio:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Al Jeek » Sad 04 Hyd 2003 11:21 am

Dwi'm yn meddwl fod na 'glic', just pobl sy'n nabod ei gilydd weithiau yn mynd ar tangent am bethau nad oes eraill a syniad am (dwin siwr fy mod i'n euog o hyn weithiau).
Cadwch nhw i negeseuon preifat! :winc:
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Wierdo » Sad 04 Hyd 2003 8:08 pm

dwi heb sylwi os oes....dwin aa mai jesd driffdio oddi ar y pwnc syn digwdd.......???
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan nicdafis » Sul 05 Hyd 2003 9:15 am

[Wedi symud hwn yma o'r Blwch Tywod, gan ei fod yn trafod defnydd y maes.]

Al Jeek a ddywedodd:Cadwch nhw i negeseuon preifat! :winc:


Yn union, a dw i'n cytuno yn llwyr ag Eusebio bod 'na gormod o stwff stafell sgyrsio ar y maes. Does dim cymaint o ots os ydy e yn y Blwch Trafod, a dyw e ddim yn dinistrio trafodaeth am rywbeth arall - beth arall i wneud gyda'r edefyn am oergell rhywun dwyt ti ddim yn nabod yw ei anwybyddu falle. Ond tra bod grwp bach o ddefnyddwyr sy'n ffrindiau yn y cigfyd yn dod i mewn i drafodaeth am rywbeth arall a dechrau cloncion, mae hynny yn gallu dieithrio defnyddwyr eraill.

Dw i ddim yn erbyn y syniad o ffrindiau sy'n defnyddio'r maes i hel clecs, ond dim ond os dydy e ddim ar draul trafodaethau pobl eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 05 Hyd 2003 3:19 pm

Cymry Cymraeg ydym ni. Yn anffodus ma llawer ohonom yn enwedig plant y chwyldro yn nabod ein gilydd drwy amgen ffyrdd (maes b, CYI, rhieni ni yn coleg efoi gilydd ayyb...) felly ella bod on medru mynd yn 'cici' weithie.

....yn anffodus
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron