Tudalen 1 o 1

Anwybyddu geiriau - chwilio

PostioPostiwyd: Maw 08 Ebr 2008 8:02 pm
gan Tegwared ap Seion
Heeeeeedd...dwidi bod yn trio chwilio am edefyns ar "ydi" ag "ydy" ond ma'r ymchwiliad yn f'anwybyddu! O's na ffor o ddeud wrtho fo beidio'n anwybyddu fi?! :crio:

Re: Anwybyddu geiriau - chwilio

PostioPostiwyd: Maw 08 Ebr 2008 8:12 pm
gan sian
Dw i ddim yn gwbod - siwr mai Hedd a'i griw osododd y geiriau i'w hanwybyddu - mae "ydi" / "ydy" yn digwydd mor aml, byddai unrhyw chwiliad cyffredinol bron yn ddiwerth. Hyd y gwela i, does dim ffordd o chwilio amdanyn nhw yn nheitlau edefynau chwaith.

Re: Anwybyddu geiriau - chwilio

PostioPostiwyd: Maw 08 Ebr 2008 8:30 pm
gan ger4llt
Os angan mynd mor bell ag anwybyddu "Radio" a "Cymru"? C'mon wan - ydi Radio Cymru yn ca'l i chwilio mor amal yma?