Tudalen 1 o 1

Swdocw

PostioPostiwyd: Iau 26 Chw 2009 10:19 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae'r gem boblogaidd Swdocw wedi'i ychwanegu at maes-e erbyn hyn. Pwyswch ar y ddolen GEMAU islaw'r logo i fynd at y gêm, neu pwyswch yma - sudoku/sudoku.php - gobeithio bydd modd ychwanegu mwy o gemau yn y dyfodol agos. 8)

Re: Swdocw

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 12:12 am
gan Duw
Yipee! Llwyddais i wneud un! Stim siap arnaf - ond dyfal donc...

Re: Swdocw

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 2:58 am
gan KJ
Diolch am roi hwn i fyny. Dim llawer o obaith gwaith allan ohona i rwan. Di chwara chydig o gema'n barod.

Re: Swdocw

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 4:13 am
gan Mali
Ddim wedi mentro eto ....ond syniad da iawn ! 8)

Re: Swdocw

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 11:45 am
gan Orcloth
Diolch yn fawr i ti Hedd am roi'r Swdocw ar y maes. Mae'n cymryd dipyn o amser i'w wneud yn iawn, ond mae'n lot o hwyl! Yr unig beth ydi, fydd pawb yn chwarae hefo hwn a ddim yn sgwennu negeseuon!

Re: Swdocw

PostioPostiwyd: Gwe 27 Chw 2009 6:12 pm
gan Duw
Bwys bach! Angen ymarfer arnaf - cwpwl o rial Ninjas Swdocw yn ein plith! :)