Tudalen 1 o 1

Nwyddau maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 9:40 am
gan Orcloth
Oes na ffasiwn beth a nwyddau'r maes, fel mygiau, crysau-t, ayyb ar gael? Os na, fysa'n ffordd dda i neud lot o bres i ni yn bysa? Fyswn i'n prynu, beth bynnag. Beth amdani?

Re: Nwyddau maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 9:53 am
gan Orcloth
Ewadd, dwi newydd feddwl am rwbath - beth am fwg neu grys-t hefo'r geiriau "Pencampwr Swdocw maes-e" arno? :winc: :lol:

Re: Nwyddau maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 11:51 am
gan Hedd Gwynfor
Orcloth a ddywedodd:beth am fwg neu grys-t hefo'r geiriau "Pencampwr Swdocw maes-e" arno? :winc: :lol:


Dyw pawb heb chwarae 32 gêm Orcloth! :ofn: :winc:

Re: Nwyddau maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 12:15 pm
gan Orcloth
Dydi pawb ddim wedi ENNILL 32 gem ti'n feddwl, Hedd! Fysa mwg neu grys-t hefo'r anfarwol "Pencampwr Swdocw maes-e" arno yn gwneud fel gwobr unigryw i'r ceisyddion 1af, 2il a 3ydd yn y gem, ti'm yn meddwl?
Ond o ddifri, oes na fygiau a ballu i'w cael yn rhywle hefo logo maes-e?

Re: Nwyddau maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 12:32 pm
gan Macsen
Oedd na grys-t Maes-e flynyddoedd yn ol. Nes i ei gwisgo hi unwaith ac ar y dydd hwnnw wnes i ddigwydd bwmpio mewn i faeswr arall oedd mae'n rhaid yn meddwl mod i'n ei gwisgo hi bob dydd.

Re: Nwyddau maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 12:57 pm
gan Orcloth
O, na! Dwi'm yn meddwl y byswn i isio'i wisgo fo bob dydd, dim ond ar achlysuron arbennig, fel priodasau (pam lai!!), mynd i steddfod neu sioe ayyb! Sai'n braf gweld rhywun tra bo chdi'n wisgo fo a hwnnw'n deud - "aaaagh! Ti ar y maes hefyd!". :D

Re: Nwyddau maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 05 Maw 2009 7:04 pm
gan Mali
Orcloth a ddywedodd: Sai'n braf gweld rhywun tra bo chdi'n wisgo fo a hwnnw'n deud - "aaaagh! Ti ar y maes hefyd!". :D


aaagh!...ar faes y 'steddfod ac ar maes-e . :winc:
Mi ddaru Nic yrru bathodyn maes-e i mi flynyddoedd yn ôl. Dim syniad lle mae o ...mewn rhyw ddrôr yn ty 'ma mae'n debyg.

Re: Nwyddau maes-e?

PostioPostiwyd: Sul 19 Ebr 2009 12:57 pm
gan Orcloth
Dwi byth di cael ateb call gan neb am hyn - ydi hi'n bosib prynu crys-t maes-e ta be, plis?