Nwyddau maes-e?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Nwyddau maes-e?

Postiogan Orcloth » Iau 05 Maw 2009 9:40 am

Oes na ffasiwn beth a nwyddau'r maes, fel mygiau, crysau-t, ayyb ar gael? Os na, fysa'n ffordd dda i neud lot o bres i ni yn bysa? Fyswn i'n prynu, beth bynnag. Beth amdani?
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Nwyddau maes-e?

Postiogan Orcloth » Iau 05 Maw 2009 9:53 am

Ewadd, dwi newydd feddwl am rwbath - beth am fwg neu grys-t hefo'r geiriau "Pencampwr Swdocw maes-e" arno? :winc: :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Nwyddau maes-e?

Postiogan Hedd Gwynfor » Iau 05 Maw 2009 11:51 am

Orcloth a ddywedodd:beth am fwg neu grys-t hefo'r geiriau "Pencampwr Swdocw maes-e" arno? :winc: :lol:


Dyw pawb heb chwarae 32 gêm Orcloth! :ofn: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Nwyddau maes-e?

Postiogan Orcloth » Iau 05 Maw 2009 12:15 pm

Dydi pawb ddim wedi ENNILL 32 gem ti'n feddwl, Hedd! Fysa mwg neu grys-t hefo'r anfarwol "Pencampwr Swdocw maes-e" arno yn gwneud fel gwobr unigryw i'r ceisyddion 1af, 2il a 3ydd yn y gem, ti'm yn meddwl?
Ond o ddifri, oes na fygiau a ballu i'w cael yn rhywle hefo logo maes-e?
Golygwyd diwethaf gan Orcloth ar Iau 05 Maw 2009 12:33 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Nwyddau maes-e?

Postiogan Macsen » Iau 05 Maw 2009 12:32 pm

Oedd na grys-t Maes-e flynyddoedd yn ol. Nes i ei gwisgo hi unwaith ac ar y dydd hwnnw wnes i ddigwydd bwmpio mewn i faeswr arall oedd mae'n rhaid yn meddwl mod i'n ei gwisgo hi bob dydd.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: Nwyddau maes-e?

Postiogan Orcloth » Iau 05 Maw 2009 12:57 pm

O, na! Dwi'm yn meddwl y byswn i isio'i wisgo fo bob dydd, dim ond ar achlysuron arbennig, fel priodasau (pam lai!!), mynd i steddfod neu sioe ayyb! Sai'n braf gweld rhywun tra bo chdi'n wisgo fo a hwnnw'n deud - "aaaagh! Ti ar y maes hefyd!". :D
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Re: Nwyddau maes-e?

Postiogan Mali » Iau 05 Maw 2009 7:04 pm

Orcloth a ddywedodd: Sai'n braf gweld rhywun tra bo chdi'n wisgo fo a hwnnw'n deud - "aaaagh! Ti ar y maes hefyd!". :D


aaagh!...ar faes y 'steddfod ac ar maes-e . :winc:
Mi ddaru Nic yrru bathodyn maes-e i mi flynyddoedd yn ôl. Dim syniad lle mae o ...mewn rhyw ddrôr yn ty 'ma mae'n debyg.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Re: Nwyddau maes-e?

Postiogan Orcloth » Sul 19 Ebr 2009 12:57 pm

Dwi byth di cael ateb call gan neb am hyn - ydi hi'n bosib prynu crys-t maes-e ta be, plis?
Rhithffurf defnyddiwr
Orcloth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 216
Ymunwyd: Mer 01 Hyd 2008 4:31 pm
Lleoliad: Ynys Mon


Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai