Tudalen 1 o 1

Calendr

PostioPostiwyd: Llun 09 Maw 2009 12:40 am
gan Hedd Gwynfor
Fel chi'n gweld mae calendr wedi cael ei ychwanegu i'r maes. Er mwyn ychwanegu manylion eich gig neu ddigwyddiad i'r calendr, ewch i'r adran perthnasol (Gigs neu Digwyddiadau) dechreuwch edefyn newydd yn yr un modd ag arfer, ac yna ar waelod yr edefyn, dewiswch y tab 'Digwyddiad Calendr:' pwyswch ar y bwtwm dewisydd dyddiad (llun bach o galendr), dewiswch y Dyddiad ac yna pwyswch 'Anfon' Bydd yr edefyn yn cael ei greu yn yr un modd ag arfer, a bydd dolen at y r edefyn wedi'i gynnwys yn y calendr ar y dyddiad cywir.

Ar hyn o bryd mae calendr bach yn ymddangos ar yr hafanddalen ar yr ochr chwith, ac hefyd mae dolen at y dudalen Calendr yn y bar opsiynnau islaw'r blwch chwilio ar frig pob tudalen. Dolen uniongyrchol i'r calendr yma - mycalendar3.php

Bydd mwy o wybodaeth yn yr adran FAQ Nodweddion Newydd newydd.php yn fuan.

Unwaith eto, diolch yn fawr iawn i Duw am ei waith.

Re: Calendr

PostioPostiwyd: Llun 09 Maw 2009 8:46 am
gan Macsen
Diolch i Dduw am ei waith (sydd wedi cymryd mwy na saith diwrnod, natch) ond mae tudalen blaen y Maes wedi mynd braidd yn 'cluttered' i fi rwan. Oes wir angen yr holl nodweddion newydd yma, ac oes yna opsiwn i roi o nol fel oedd o?

Re: Calendr

PostioPostiwyd: Llun 09 Maw 2009 10:32 am
gan Hedd Gwynfor
Fi'n credu mai'r calendr yma yw'r ychwanegiad pwysicaf ar y maes ers sbel hir. Bydd yn llawer haws chwilio am ddigwyddiad Cymraeg erbyn hyn trwy ddefnyddio'r teclyn yma. Ond o ran y gweddill, o ran y data a'r ystadegau sydd ar waelod y dudalen hafan, dwi'n dueddol o gytuno gyda ti Macsen.Falle gellid cynnwys y wybodaeth yma ar un dudalen 'ystadegau'. Wnai holi Duw am hyn... (ond mae ganddo waith go iawn, felly mae'n bosibl na bydd llawer yn newid am sbel fach! :winc: )

Re: Calendr

PostioPostiwyd: Llun 09 Maw 2009 12:52 pm
gan Macsen
Dweud y gwir mae popeth yn edrych lot taclusach nawr nag oedd o bore 'ma.

Re: Calendr

PostioPostiwyd: Llun 09 Maw 2009 9:21 pm
gan Duw
Diolch am y sylwade pawb. Mae newid golwg yr hafan yn fater cymharol hawdd. Os ydych yn teimlo ei fod yn 'clyterd' - digon teg (eto, tuedd i gytuno) - dwi wedi bod yn edrych ar ddewislen 'dropdown' ar gyfer rhai o'r opsiynau - dule hwn leihau ar ddryswch a chlyter. Beth bynnag, rydym yn croesawu unrhyw sylwadau (negatif/positif) ynglyn a'r datblygiadau diweddaraf. Yn sicr, ni ffyddwn yn cael e'n reit pob tro ac mae angen i bobl ddweud hynny.

Hoffwn ymddiheuro am y llanastr parthed y calendr os oeddech arlein neithiwr neu prynhawn 'ma. Oherwydd natur y teclun, mae'n rhaid profi ar y fforwm byw - pell o ddelfrydol dwi'n gwybod. Dylai fod popeth yn sefydlog am dipyn (ac ar y seithfed dydd...)

Bydd canllawie llawn yn ymddangos ar Nodweddion Newydd parthed defnyddio'r calendr rhywbryd heno.

//GOLYGU: Ocei - manylion ar Nodweddion Newydd nawr.