Siop Siarad Gymraeg

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Siop Siarad Gymraeg

Postiogan Al Jeek » Llun 13 Hyd 2003 8:30 pm

Ar ol gweld faint o falu dom da sy'n mynd ymlaen ar y maes yma, a Nic yn poeni y buasai'n rhaid cael gwared o'r maes o'i herwydd, dwi di mynd ati i greu chat room syml i chi bobl gael cadw eich malu cachu oddi ar faes-e.
Dwin meddwl y buasai'n ddefnyddiol er mwyn i bobl:
1. Son am bethau dibwys
2. Trafod pethau ymysg ei gilydd sydd ddim i'w wneud a maes-e (yn lle mynd ar tangent yma).
3. Lle i drafod mewn argyfwng, e.e. pan mae maes-e i lawr.

Mae negeseuon yn aros am beth amser so peidiwch a phoeni bydd unrhywbeth rydych yn ddweud yn diflannu, neith o ddim (gobeithio).
Nes i stopio neud Cymraeg adeg TGAU so sori am y gwallau gramadeg a sillafu (mae ychydig o waith twtio iw wneud fyd).

Eniwe:

Y SIOP SIARAD.

Fyny i chi os da chisho ei ddefnyddio, mae croeso i bawb. :)
o.n. mae linc Ifan ar edefyn arall yn anghywir.

GOLYGU: Wedi newid y cyfeiriad i'r un newydd.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan nicdafis » Llun 13 Hyd 2003 8:54 pm

Neis wan ;-)

A fi yw'r unig un sydd yn defnyddio. :crio:

Fydd yn iawn i mi roi linc o'r tudalen blaen i helpu hybu fe?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Al Jeek » Llun 13 Hyd 2003 9:23 pm

Iawn dim problem. :)
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Leusa » Llun 13 Hyd 2003 10:31 pm

'kin ace!!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Gruff Goch » Maw 14 Hyd 2003 12:49 am

Felly dyna ti 'di bod yn ei wneud yn lle helpu fi efo MySQL a PHP-Nuke y diawl... ;)

Edrych yn dda, chwarae teg. Bach yn wag adeg yma o'r nos ond dyna ni...

Cwpwl o bethau Al- ti di camdeipio enw'r stafell 'Mynedfa', ac ma' angen i ti gyfieithu ' aled decided to leave us at Tue Oct 14 00:38:53 UTC+0100 2003' (gwnaiff 'hwrê' syml y tro ;) ) a aled logged on at Tue Oct 14 00:37:45 UTC+0100 2003 (Bwww?).

Get on it. :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Al Jeek » Maw 14 Hyd 2003 12:00 pm

Gruff Goch a ddywedodd:Felly dyna ti 'di bod yn ei wneud yn lle helpu fi efo MySQL a PHP-Nuke y diawl... ;)

Nes i ffeindio pum munud sbar i neud o :winc:

Gruff Goch a ddywedodd:]
Edrych yn dda, chwarae teg. Bach yn wag adeg yma o'r nos ond dyna ni...

Cwpwl o bethau Al- ti di camdeipio enw'r stafell 'Mynedfa', ac ma' angen i ti gyfieithu ' aled decided to leave us at Tue Oct 14 00:38:53 UTC+0100 2003' (gwnaiff 'hwrê' syml y tro ;) ) a aled logged on at Tue Oct 14 00:37:45 UTC+0100 2003 (Bwww?).

Get on it. :drwg:


Oops. :wps:
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Ifan Saer » Maw 14 Hyd 2003 12:34 pm

Newydd fod yn dy siop siarad, mr jeek. Gwaith da, ond....

Roedd na ddau foi yna'n barod o'r enw 'Ifan dim Saer' a 'Ifan Saer 2'.

Stopia'r bobol 'ma ddwyn f'enw i, damia!!

Ar y llaw arall, ma'r ego yn licio'r syniad o 'Ifan Saer' ffan clyb. Yr 'Ifan Saer Juniors', efallai??

:ofn:
Y Cofis wyr y cyfan
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Al Jeek » Maw 14 Hyd 2003 2:55 pm

Dwi di uwchraddio y siop siarad!
Dwi di twtio fo fyny, so bod on edrych bach yn well, a ges i chydig o help gan mam gyda'r cyfieithu.

Felly:
Y SIOP SIARAD NEWYDD!

Nai newid y cyfeiriad uchod fyd.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan nicdafis » Maw 14 Hyd 2003 3:06 pm

Wedi newid y ddolen yn y bocs newyddion newydd, uchod, hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Maw 14 Hyd 2003 3:11 pm

Dyw e ddim yn lico Macintosh, mae'n debyg. Neu falle dy fod di'n gweithio arno fe ar y funud. Tria i to yn y man.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron