gan Duw » Maw 12 Mai 2009 11:24 pm
Dyna'r unig newid - newid ochr y rhithffurfiau?
//GOLYGU
Dwi ddim yn meddwl bydd hyn yn bosib oherwydd yr holl ategynnau sydd wedi'u gosod ar y safle. Bydde angen newid ffeiliau steil pob ategyn, a phosib newid cod gwreiddiol yr ategynnau. Er ei fod yn edrych yn beth hawdd (arwynebol) i'w wneud, mae'r realiti'n peth gwahanol.
Mae modd gwneud newidiadau i'r cynllun hwn, er bydd hynny'n meddwl bydde'n rhaid ei newid i bawb.
Thema hwn = Prosilver. Mae sawl thema wedi seilio ar hwn yn bodoli, ond eto nid yw'r ategynnau wedi'u cynnwys.
Ffili gweld ffordd hawdd o'i wneud ar hyn o bryd.