Tudalen 1 o 1

Ail croen, efo rhithffurfiau ac enwau ar y chwith?

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 10:42 pm
gan Diobaithyn †
A fydd on bosib cael ail croen am y fforwm, efo'r rhithffurfiau a'r enwau a.y.y.b yn dangos ar chwith y tudalen, yn hytrach na'r dde?

Re: Ail croen, efo rhithffurfiau ac enwau ar y chwith?

PostioPostiwyd: Maw 12 Mai 2009 11:24 pm
gan Duw
Dyna'r unig newid - newid ochr y rhithffurfiau?

//GOLYGU

Dwi ddim yn meddwl bydd hyn yn bosib oherwydd yr holl ategynnau sydd wedi'u gosod ar y safle. Bydde angen newid ffeiliau steil pob ategyn, a phosib newid cod gwreiddiol yr ategynnau. Er ei fod yn edrych yn beth hawdd (arwynebol) i'w wneud, mae'r realiti'n peth gwahanol.

Mae modd gwneud newidiadau i'r cynllun hwn, er bydd hynny'n meddwl bydde'n rhaid ei newid i bawb.

Thema hwn = Prosilver. Mae sawl thema wedi seilio ar hwn yn bodoli, ond eto nid yw'r ategynnau wedi'u cynnwys.

Ffili gweld ffordd hawdd o'i wneud ar hyn o bryd.

Re: Ail croen, efo rhithffurfiau ac enwau ar y chwith?

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 5:34 pm
gan Diobaithyn †
A, rwy'n gweld. Diolch am yr ateb.

Oes wefanau lle ellid lawrlwytho croenau am phpBB, neu ydi hynnu hefyd yn broses anodd ac araf?

Re: Ail croen, efo rhithffurfiau ac enwau ar y chwith?

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 7:19 pm
gan Duw
Na, mae llwyth ar gael - tria phpbb.com. Mae'n dibynnu'n fawr pa fersiwn sy 'da ti. Fersiwn phpbb2 = subsilver (diofyn). Fersiwn phpbb3 = prosilver (diofyn) a subsilver (er mwyn cadw'r un olwg i'r rheini sy'n uwchraddio o fersiwn 2).

Dyma'r url: http://www.phpbb.com/styles/

Mae llwyth o wefannau eraill sy'n cynnwys steiliau ychwanegol:

http://www.phpbbstyles.com
http://www.phpbbhacks.com/templates.php
http://www.phpbb3styles.net
http://www.phpbb-styles.com
http://www.stylesdb.com
http://www.startrekguide.com

Jest gwgla.