Tudalen 1 o 3

Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 12:42 pm
gan Hedd Gwynfor
Be chi'n meddwl o'r adran newydd 'Y TYWYDD' y mae Duw wedi creu ar ein cyfer? tywydd.php

Dwi'n credu fod yr adran yma yn nodwedd newydd gwych i Gymry Cymraeg ar y we. Mae Duw wedi creu system lle mae manylion Tywydd am wahanol ardaloedd yng Nghymru yn cael eu cymryd o ffynonellau ar y we trwy RSS ac yn cael eu dangos yn daclus yn y Gymraeg ar maes-e.com 8)

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 12:57 pm
gan Mihangel Macintosh
Ychwanegiad da. Mae na fwy o fanylion ar yr un maes-e i'w gymharu ag un BBC Cymru'r Byd.

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 1:24 pm
gan osian
Da. oes 'na ffordd i gael yr un lleoliad i ddod fyny bob tro yn hytrach na gorfod chwilio ar y rhestr?

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 2:48 pm
gan Duw
Fel beth? Rhoi dewis diofyn i bob defnyddiwr? Gallaf 'goblo' rhywbeth at ei gilydd os taw dyna'r bwriad (e.e. checkbox gyda 'cadw hwn fel diofyn' neu debyg??).

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 2:58 pm
gan Hazel
Dyna neis iawn, Duw! Beth am Saint Louis? :D

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 4:08 pm
gan Mali
Hazel a ddywedodd:Dyna neis iawn, Duw! Beth am Saint Louis? :D


A beth am Comox , B.C. ? :winc:

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 4:12 pm
gan Duw
Bois Bach, ahem, Merched Bychain! Caf weld beth allaf wneud - nid yw'r duw hwn yn hollalluog!

@Osian - dwi'n meddwl fy mod wedi cracio'r peth (dwi wedi ychwanegu maes 'lleoliad diofyn' i dabl 'users' y safle a bydd modd ei ddiweddaru unwaith i mi greu ffurflen fechan (chkbox ac ati). Dwi wedi rhoi pawb i gaerdydd fel y diofyn diofyn, bydd lan i bawb newid hyn nes ymlaen.

//GOLYGU

Ocei, mae fersiwn 'cyntefig iawn' o cadw hoff lleoliad mewn lle.

Merched - gwnaf edrych ar Ardaloedd 'Tu Allan i Gymru' heno (yn anffodus, mae adeiledd url US/Canada'n wahanol i rai swyddogol Cymru, felly ychydig o 'potsh').

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 5:36 pm
gan Hazel
Ah wel! Hoffen ni fod wahanol. Fe gawn ni NOAA. :)

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 8:04 pm
gan Duw
Ocei Haze, wedi ychwanegu St Louis a Toronto. Gobeithio ei fod yn gweithio'n iawn. Gwnaf ychwanegu GeoData (data lledred, hydred, zipcodes ac ati). Rho NB i mi parthed y 'zip code' sbesiffig.

@Mali - os allet anfon y cod post sbesiffig rwyt ei angen, gall GoogleMap weithio'n effeithiol wedyn.

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 9:32 pm
gan Hedd Gwynfor
Duw a ddywedodd:@Osian - dwi'n meddwl fy mod wedi cracio'r peth (dwi wedi ychwanegu maes 'lleoliad diofyn' i dabl 'users' y safle a bydd modd ei ddiweddaru unwaith i mi greu ffurflen fechan (chkbox ac ati). Dwi wedi rhoi pawb i gaerdydd fel y diofyn diofyn, bydd lan i bawb newid hyn nes ymlaen.

//GOLYGU

Ocei, mae fersiwn 'cyntefig iawn' o cadw hoff lleoliad mewn lle.


Gret, diolch Duw. Mae hwn yn gweithio'n berffaith i fi. Wedi dewis Llanelli fel fy newis diofyn i ac yn gweithio'n berffaith. 8)