Tudalen 2 o 3

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Llun 01 Meh 2009 9:39 pm
gan Hazel
Duw a ddywedodd:Ocei Haze, wedi ychwanegu St Louis a Toronto. Gobeithio ei fod yn gweithio'n iawn. Gwnaf ychwanegu GeoData (data lledred, hydred, zipcodes ac ati). Rho NB i mi parthed y 'zip code' sbesiffig.

@Mali - os allet anfon y cod post sbesiffig rwyt ei angen, gall GoogleMap weithio'n effeithiol wedyn.


Diolch, Duw. Mae 'na lawer o waith yna. Dw i'n ei werthfawrogi fe.

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Maw 02 Meh 2009 3:20 pm
gan Mali
Diolch yn fawr Duw.....mae Comox ar maes-e ! :D

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Maw 02 Meh 2009 3:28 pm
gan Orcloth
Un da ydi o, de? Ffantastic, D! Ti werth y byd! :D

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Maw 02 Meh 2009 4:08 pm
gan Orcloth
Ydi tair o ferched yn ddigon i ddechra ffan-clyb?!!!! :winc: :D

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Maw 02 Meh 2009 7:07 pm
gan ceribethlem
Orcloth a ddywedodd:Ydi tair o ferched yn ddigon i ddechra ffan-clyb?!!!! :winc: :D
Swno'n gwd i fi

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Maw 02 Meh 2009 7:22 pm
gan Duw
Wehei! Menage a cinq! (esgusodwch y diffyg acenion - ond dwi'n digon siarp!)

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Maw 02 Meh 2009 7:53 pm
gan Orcloth
Na fo wedi'i setlo - dan ni am gychwyn ffan-clyb i Duw! Wehei!!! (Bydd mwy na menage a cinq, gei di weld!!!). :D :winc:

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Maw 02 Meh 2009 10:15 pm
gan Duw
Ahem... wel nol i'r edefyn... Dwi wedi cynnwys gwybodaeth seryddol i bobl sydd â wir diddordeb yn y pethe 'ma. Er gwnes atudio ychydig o seryddiaeth rhyw 15 blynedd yn ol, nes i fe trwy gyfrwng y Saesneg a felly dwi'n weddol ansicr o'r terminoleg. Os ydych yn ffeindio gwalle neu diffygion cyfieithu, plis anfonwch NB er mwyn i mi eu cywiro.

*Diweddariad

Hyd yn hyn, dim ond lleoliadau yn dechre gyda 'A', Caerdydd a'r rheiny tu allan i Gymru sydd wedi'u cysylltu â Googlemap. Gwnaiff gymeryd wythnos neu ddwy i gyflawni'r menbwn data - diolch am eich amynedd.

Hefyd os ydych yn dod ar draws safleoedd â gwybodaeth defnyddiol, rhowch wybod yn ddiymdroi. A oes diddordeb am ddata morwrol (nautical)?

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Mer 03 Meh 2009 9:56 am
gan Hazel
Duw, mae gen i ddiddordeb yn seryddiaeth, ie. Dydw i ddim wastad yn ei deall hi bob amser ond mae gen i ddiddordeb ynddi a dw i'n hoffi i ddarllen amdani. Diolch i chi.

Re: Tywydd ar maes-e

PostioPostiwyd: Mer 03 Meh 2009 11:14 am
gan dafydd
Mae mapiau'r Weather Underground wedi gwneud rhywbeth od iawn i Ynys Môn!