Ar gais Hedd, dwi wedi cynnwys ategyn newydd o'r enw 'cuddio' ar BBCode. Mae'r ategyn hwn yn cuddio testun o westeion ond yn ei ddangos i ddefnyddwyr cofrestredig.
Beth am dipyn o egluro? Dw i ddim yn sicr be di pwrpas yr ategyn yn union. Er enghraifft, pan fydda i'n pori Maes-e, dw i ddim yn mewnlofnodi nes imi weld rhywbeth mod i eisiau rhoi ateb iddo (neu os bydda i eisiau dechrau rhywbeth newydd). Felly, ymddengys bydd lot o bethau'n anweladwy os caiff yr ategyn hwn ei ddefnyddio.