Tudalen 1 o 1

Cuddio Testun

PostioPostiwyd: Llun 22 Meh 2009 8:18 pm
gan Duw
Ar gais Hedd, dwi wedi cynnwys ategyn newydd o'r enw 'cuddio' ar BBCode. Mae'r ategyn hwn yn cuddio testun o westeion ond yn ei ddangos i ddefnyddwyr cofrestredig.
Os ydych yn gallu darllen hwn, rydych wedi mewngofnodi, os na, caws caled!

Re: Cuddio Testun

PostioPostiwyd: Maw 23 Meh 2009 9:36 pm
gan Seonaidh/Sioni
Beth am dipyn o egluro? Dw i ddim yn sicr be di pwrpas yr ategyn yn union. Er enghraifft, pan fydda i'n pori Maes-e, dw i ddim yn mewnlofnodi nes imi weld rhywbeth mod i eisiau rhoi ateb iddo (neu os bydda i eisiau dechrau rhywbeth newydd). Felly, ymddengys bydd lot o bethau'n anweladwy os caiff yr ategyn hwn ei ddefnyddio.

Re: Cuddio Testun

PostioPostiwyd: Maw 23 Meh 2009 9:40 pm
gan Hedd Gwynfor
Seonaidh/Sioni a ddywedodd:Beth am dipyn o egluro? Dw i ddim yn sicr be di pwrpas yr ategyn yn union. Er enghraifft, pan fydda i'n pori Maes-e, dw i ddim yn mewnlofnodi nes imi weld rhywbeth mod i eisiau rhoi ateb iddo (neu os bydda i eisiau dechrau rhywbeth newydd). Felly, ymddengys bydd lot o bethau'n anweladwy os caiff yr ategyn hwn ei ddefnyddio.


Mae enghraifft o sut gall fod yn ddefnyddiol yma...