Tudalen 1 o 2

Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2011 9:36 pm
gan Hedd Gwynfor
Helo Gyfeillion,

Dwi heb fod yn cyfrannu yn aml yn ddiweddar, er yn darllen yn gyson. Dwi'n teimlo fy mod wedi esgeuluso maes-e yn fawr dros y flwyddyn diwethaf. Os oes gan unrhyw un ddiddordeb cymryd yr awenau, a gyda syniadau ar sut i ddatblygu maes-e, mi fyswn i'n barod iawn i drosglwyddo'r maes, fel gwnaeth Nic Dafis i mi rhai blynyddoedd yn ôl. Nid yw'r costau rhedeg yn uchel iawn, mae'r llety sydd gen i rhyw £6 y mis a'r parth rhyw £20 y flwyddyn, ac mae posibiliad gwerthu hysbysebion. Os oes diddordeb, anfonwch neges breifat,

Diolch,

Hedd

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2011 11:14 pm
gan C++
Gwych Hedd. Mae gyda ti e-bost.

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Sad 05 Tach 2011 6:21 pm
gan cymro1170
Dwi wedi gyrru DM i ti ar Twitter ac yma.

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Gwe 11 Tach 2011 12:25 pm
gan Macsen
Dw i ddim yn siwr a yw'r diffyg gweinyddu yn broblem, gan nad oes yna lawer o gynnwys i'w weinyddu bellach. Beth allai gweinyddwr newydd ei wneud i annog pobol i gyfrannu at Faes-E? Ynteu a ydi cyfrwng y fforwm drafod wedi mynd yn hen ffasiwn? Oes angen newid neu gyfaddef fod Facebook/Twitter wedi ennill y dydd a chau'r siop? :?

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 17 Tach 2011 7:04 am
gan kingbee
Macsen, sai'n credu sefyllfa either/or ydy o. Mae'n bosib ddefnyddio'r wefannau fwy poblogaidd i gael fwy o bobl fan hyn. Nid ydy fforwmau yn marw o bellffordd!

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 17 Tach 2011 3:49 pm
gan Macsen
kingbee a ddywedodd:Nid ydy fforwmau yn marw o bellffordd!

Falle nad ydi fforymau yn gyffredinol wedi marw, ond mae'r fforwm penodol yma wedi.

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Gwe 18 Tach 2011 12:08 pm
gan dil
ose rwyn wedi cymryd drosodd.
os ddim dwi isio dysgu mwy ynglyn a be sy anghen neud.

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Maw 22 Tach 2011 9:21 pm
gan Macsen

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 24 Tach 2011 2:35 pm
gan dil
dwin gwneud defydd o maes-e i hyrwyddo a ballu ac yn hoff iawn o'r maes.ond dwi yn teimlo bo fi yn wastio amser yn hywyddo drwy maes-e yn aml.
be dechi feddwl? dwi'n rhoi pethe fynu o rhan dyletwydd yn aml. di menter iaith a CyIG yn aml ddim hudanoed yn defnyddio y maes i hyrwyddo neu trafod. dydi'r criw ifancach erioed d clywed am y maes. a ma wir anghen i bobl ifanc weld fod y gymraeg yn rhan go iawn o'r byd technolegol. fel arall mae'n berig i nhw weld saesneg fel iaith go iawn a cymraeg fel hen beth.

un peth oni'n deimlo i ddechrau oedd fod hi'n annodd postio unrhyw farn heb i 'thought police' neidio ar y peth am gael y farn anhgywir, camsillafu neu dim defnyddio llythrene bras neu lythrene bras yn unig.
yn amlwg ma pobl yn mynd i ddweud pethe gwirion ar maes-e ac mewn achosion rhaid stopio negeseuon ayyb. rhydd pawn iw farn de, ond mae'n bwysig peidio bod yn snobs.

os oes wir ymdrech mae modd gwneudd y maes neu safle gymraeg debyg yn boblogaedd. be sy wedi cael i neud i achub y sefyllfa yn ddiweddar o rhan hyrwyddo'r maes?
ma fatha trefnu gigs dydi.alle fod yr un cynta yn llawn. ond ar ol hynu rhaid pwshio y peth lot mwy i gadwr diddordeb.wedyn ma llwyddiant tymor hir. yn aml ma pobl ddim yn gwneud hynu a ma gigs yn wag a ma pobl yn deud fod gigs jyst ddim yn gweithio dim mwy. i fi ma hynu fatha rhoi fynu ar ein iaith a diwylliant.
sori ond dwin ffendio fon haws i ddefnddio gigs fel metafor!

yn ola, mae facebook ar fin chwythu i blwc dwi meddwl. llu ma rwan yn amser da i lenwi y bwlch.

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Iau 24 Tach 2011 6:15 pm
gan ceribethlem
dil a ddywedodd:yn ola, mae facebook ar fin chwythu i blwc dwi meddwl. llu ma rwan yn amser da i lenwi y bwlch.


Chwythu i blwc ym mha fordd? Mae Twitter yn cynyddu mewn poblogrwydd, ond yn cynnig rhywbeth dra wahanol i facebook. Bydd facebook yn parhau i fod yn fawr i blant ysgol, myfyrwyr ayyb. Mae hefyd yn ffordd da i nifer o'r cenedlaeth hyn (fel fi!) i gadw cyswllt gyda phobl sydd wedi symyd ymlaen mewn rhyw ffordd, e.e. mae'r bachan oedd yn rhannu stafell gyda fi yn y Brifysgol bellach yn yr UDA, a bydden i byth wedi dod nol i gyswllt ag ef oni bai am facebook.