Tudalen 2 o 2

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Gwe 25 Tach 2011 10:16 am
gan dil
dwi meddwl fod o wedi i raddau(lot llai personol) ond tin meddwl yn wahanol.
a ma dy enghraifft di yn deud fod on dod a bobl at i gilydd. gret.

dim dyne odd y prif bwyntiau dwi di neud uchod ddo.
amddiffyn facebook ydi dy bwynt di?

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Gwe 25 Tach 2011 4:42 pm
gan ceribethlem
dil a ddywedodd:dwi meddwl fod o wedi i raddau(lot llai personol) ond tin meddwl yn wahanol.
a ma dy enghraifft di yn deud fod on dod a bobl at i gilydd. gret.

dim dyne odd y prif bwyntiau dwi di neud uchod ddo.
amddiffyn facebook ydi dy bwynt di?


Amddiffyn? Jiawcs, na. Ishe gwybod ym mha ffordd wyt ti'n credu ei fod wedi whythu ei blwc?

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Sad 26 Tach 2011 12:44 am
gan Duw
Hedd - oes ymgeisydd llwyddiannus 'to? Angen gwneud cyhoeddiad mwg gwyn?

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Maw 06 Rhag 2011 8:39 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae Carl Morris wedi cytuno cymryd yr awenau ar y cyd gyda criw o wirfoddolwyr eraill. Diolch yn fawr Carl. Byddai'n cydweithio gyda fe dros yr wythnosau nesaf yn trosglwyddo pob dim. Gobeithio bydd y maes yn mynd o nerth i nerth dan ofal medrus Carl. :D

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Maw 06 Tach 2012 12:20 pm
gan dil
ose ymgais di bod i hyrwyddo maes-e?
dwi'm yn gweld llawer o adfuwio.
i ateb cwestiwn ceribethel dwin gweld facebook yn newid yn sydun ac yn mynd yn llai o ddefnydd diwylliannol ac yn fwy o arf i hysbysebu ayyb. pan nath myspace hyn ath o bron ir wal. fel pob dim mi eith facebook ond oherwydd ei chryfder man mynd i gymrud amser. ma facebook di mynd yn gachu llwyr i hyrwyddo stwff. sa tisio talu i facebook dydi hyrwyddo digwyddiadau ddim haner mor effeithiol ac oeddo yn y gorffennol. dyne ydi fy mhrif ddefnydd o facebook sy alle yn wahanol i bobl erill. os ma maes-e yn brysur man dangos bwrlwm o ddiwylliant a barn ac os ma facebook yn brysur man dangos malu cachu a marchnata sinical. ond mae facebook yn llwyddianus gan fod on cael i redeg ac hyrwyddo yn effeithiol. tydi maes-e ddim. mae oes y fforwm di mynd medde rhai. ond y gwir ydi ma modd cynnal wbeth os dir ymdrech yn cal i neud. fatha pob dim arall.

Re: Pwy sydd am redeg maes-e?

PostioPostiwyd: Gwe 23 Tach 2012 9:17 pm
gan bartiddu
dil a ddywedodd:ose ymgais di bod i hyrwyddo maes-e?
mae oes y fforwm di mynd medde rhai. ond y gwir ydi ma modd cynnal wbeth os dir ymdrech yn cal i neud. fatha pob dim arall.


Jiw, dwi'n mynychu tua 6 gwahanol fforwm o aml ddiddordeb yn ddyddiol o hyd. Digon o fywyd a hwyl arnynt, a dweud y gwir dyma lle dwi'n dysgu am bopeth sy'n mynd mlaen yn y byd, sdim angen gwylio'r teli bocs am newyddion rhagor. Yn anffodus yn yr iaith fain maent i gyd :(
Dwi'n pigo mewn ma i maes-e nawr ac yn y man pan dwi'n cofio, ond ma'r lle'n blydi ded yn anffodus. Melys atgofion am hwyl yr hen ddyddie yma! :D :crio: