Mae'n anochel fod rhywun am gael eu corddi, yn enwedig mewn trafodeth wleidyddol lle ma pobol yn argyhoeddiedig mai eu hegwyddorion/credoe nhw sy'n iawn. Yn anffodus gall ddim pob un fod yn iawn...dim ond fi...
...na o ddifri.
Ma jyst rhaid dysgu pwyllo.
Beth am drial bod yn glefar yn lle? Fi ffili neud na, so fi'n trial pwyllo rhywfaint. Ma pawb yn euog, ond diawl, os gariwn ni mlan bydd jyst dim pwynt.
Falle y dylen ni gyd ddechre trwy dderbyn nad os y fath beth yn bodoli ar y Maes ag ennill neu golli dadl, jyst trafod gwahaniaethau barn. Ma'n rhaid hefyd derbyn fod pobol yma o wahanol oedran, profiad/profiad byw, addysg, a jyst achos fod rhywun yn cyfrannu, dyw e ddim yn golygu eu bod nhw'n meddwl bo nhw'n holl-alluog yn y maes, ond falle fod gyda nhw rhyw grap ar rwbeth ond lot o chwilfrydedd ac awydd trafod ymhellach. Yn enwedig ni bobol ifanc. mae'n ddigon anodd cal brwdfrydedd am wleidyddieth yn y lle cynta, so ma unrhyw drafodeth iw groesawi...ond ma cal pobol yn sarhau a gweud "cer gytre bachgen bach, beth wyt ti'n wbod" neu pethe i'r perwyl hyn yn ddim help o gwbwl (ac odw, fi'n cyfeirio yn bena at Newt a'i ymosodiadau ar Ifan fan hyn). Beth am anog yn lle bwrw rhywun lawr drw'r amser?
Hefyd, er fod jocs yn cael eu gweud, 80% o'r amser dyn nhw ddim yn cofrestru gan bobol, ac felly'n cael eu cymryd o ddifri - sydd wrth gwrs am wylltio person ymhellach.
Os gweud joc, yn enwedig yn yr adran wleidyddiaeth - bydden i'n awgrymu bod y gwenogluniau yn cael eu defnyddio...yn drwm!