Grwp Llywio wedi'i ffurfio

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Aran » Llun 24 Tach 2003 10:56 pm

nicdafis a ddywedodd:Woah! Wnaeth Aran <a href="http://www.google.com/search?hl=cy&ie=ISO-8859-1&q=just.melvined.death&btnG=Chwilio+Google">felfino Marwolaeth</a>! :ofn:


diolch, dw i 'di darllen ystod eang o ddyfyniadau, ond dw i dal ddim yn deall beth mae'n olgyu! rho gliw... :winc:

onid ddylai hynny fod 'fin nos, fan hyn, lleddais Llywelyn.... :?: '
.
.
.
:ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan nicdafis » Llun 24 Tach 2003 11:06 pm

Bill a Ted, Aran, Bill a Ted.

Ta beth, nôl i'r edefyn. Dw i'n cytuno â Cardi Bach bod rhaid i ni i gyd pwyllo (dw i mor euog ag unrhywun postio pethau anadeiladol i'r maes, ac mae mwy o gyfrifoldeb arna i ymddwyn yn weddol da. Dw i'n wneud fy ngorau.)

Mae wastad yn syniad da i beidio postio ymateb i rywbeth tra dy fod di'n grac. Does dim hast, bydd y peth 'na yfory, ac na fydd y person a'u bostiodd yn newid ei f/meddwl beth bynnag ti'n dweud nawr. Cer i wneud cwpan o de camomeil, neu fynd mas a chael mwgyn dan y sêr. Dyna beth dw i'n bwriadu wneud nawr - wyt ti'n hogi dy cryman, Mr Marw?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Marwolaeth » Llun 24 Tach 2003 11:31 pm

Aran a ddywedodd:onid ddylai hynny fod 'fin nos, fan hyn, lleddais Llywelyn....


Nid myfi sy'n gwneud y lladd, fi sy'n clirio fyny mess pobl eraill a gwneud yn siwr bod y bydysawd yn cadw at ei reolau ei hun. Mi fysai yna afflwyn o lanast os fyswn i ddim yn troi i fyny. Cyrff marw yn cerdded y strydoedd... Mi fysai fo fel Peirats y Cribi.

Doeddwn i ddim yn hoff iawn o'r ffilm Bill a Ted. Wedi ypsetio'r wraig rhywfaint.

Beth bynnag; oedd, roedd Llywelyn yn foi neis. Dw i byth yn cyfarfod neb dan yr amodau gorau, ond mi ddeliodd o a'r sefyllfa yn well na rhai eraill. (Yndw, dwi yn siarad am Charles II, y bastad seimllyd idda fo. A Tutenkamun. Na, gei di ddim dod a'r holl ffycin trysor na hefo ti! Be ydwi, morwyn?)
Fin nos, fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiaf hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Marwolaeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 1:04 am
Lleoliad: Ymhobman

Postiogan Aran » Maw 25 Tach 2003 9:14 am

nicdafis a ddywedodd:Bill a Ted, Aran, Bill a Ted.


do, weles i hynna, ond dw i dal ddim yn gwybod beth mae'n meddwl! erioed 'di gweld y ffilm - sut ddiawl mae melfino rhywun? help!

ac fel arall, dw i'n amau bod rhywun wedi bod yn darllen gormod o Terry Pratchett (os 'dy hynna'n bosib) - neu bod y dyn ei hun wedi dysgu iaith y... ym, iaith y llefydd di-liw y tu hwnt i amser.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan eusebio » Mer 21 Ion 2004 5:31 pm

Pwy ydi'r grwp lliwio 'ma ... ac ydy nhw'n gorfod dod â'u crayons eu hunain?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Cardi Bach » Iau 22 Ion 2004 9:57 am

eusebio a ddywedodd:Pwy ydi'r grwp lliwio 'ma ... ac ydy nhw'n gorfod dod â'u crayons eu hunain?

Ma eilode'r grwp llywio'n cal eu enwi yn y neges gynta.
Ni'ngobitho penodi Jac y Jwc fel cadeirydd a Siwpyrted fel ysgrifennydd. Ma Tinci-winci, dipsy la-la a po yn cyfrannu'n heleth.
Llywio Mabon yn y Bath i ni ar y foment. Pa lyw ddyle dyngaris Mabon fod Eus?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan eusebio » Iau 22 Ion 2004 10:14 am

Piws ydi'r ffefrun yn ty ni ar gyfer dyngaris ;)
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Barbarella » Iau 22 Ion 2004 10:22 am

Cardi Bach a ddywedodd:Llywio Mabon yn y Bath i ni ar y foment. Pa lyw ddyle dyngaris Mabon fod Eus?

Pam bod Mabon yn gwisgo dyngaris yn y bath? :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Cardi Bach » Iau 22 Ion 2004 10:29 am

Barbarella a ddywedodd:
Cardi Bach a ddywedodd:Llywio Mabon yn y Bath i ni ar y foment. Pa lyw ddyle dyngaris Mabon fod Eus?

Pam bod Mabon yn gwisgo dyngaris yn y bath? :rolio:


achos fod e wedi bod yn whare yn y mwd yn i ddyngaris piws a fod i fam e wedi hala fe i molch yn y bath!
Wyt ti'n deall dim o'r pethe ma gwed Barbs? :rolio:

'Mabon yn golchi dillad mewn Hotpoint' fydd y nesa (hysbysebu am ddim i Hotpoint). Bydd e ddim yn cal rhoi'r dyngaris piws yn y wosh gyda blowsen wen i fam. Gwers bwysyg!
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Barbarella » Iau 22 Ion 2004 10:42 am

Delwedd
Dwi'n joio bod yn y grwp lliwio! :D
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 34 gwestai