Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Yr haul mashwr 7ennyn...?
Mond chdi a fi yn isda yn y twllwch. Pawb arall allan yn ffrio yn yr haul...
7ennyn a ddywedodd:Fyddai'n taro fewn bob nos ar ol gwaith ac mae yna bedwar tudalen o negeseuon newydd fel arfer. Heno 'doedd yna ddim ond dau dudalen. Be sy'n mynd ymlaen?
7ennyn a ddywedodd:S'gin rhywun ffansi gwneud graff?
huwwaters a ddywedodd:Y rheswm bod nifer y negesuon wedi lleihau achos bod pobl wedi colli diddordeb. Fedri di ddim cynnal sgwrs call heb i rywun dorri ar ei draws efo rw sothach, felly pam ymdrechu?
fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Mae gen i rhyw frith gof o rhyw edefyn am hyn sbel yn ôl. Ac os 'dwi'n cofio'n iawn HWaters oedd ar gefn ei geffyl pryd hynny (?)
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:'Maes e di golli ei fflam' odd y deitl. (trist bo fi'n cofio hynny ). O ni newydd ar y pryd ac yn meddwl 'jiawch oti fi di neud rhwbeth?'
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai