ystadegau

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Llun 17 Gor 2006 7:18 pm

Newydd sylwi - Edefyn "Big Brother 7" yw'r chweched pwnc mwya poblogaidd ar y Maes i gyd! :ofn: Be' ma' hynna'n ddeud amdano ni, eh?!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan 7ennyn » Llun 17 Gor 2006 7:53 pm

Fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Yr haul mashwr 7ennyn...? :winc:
Mond chdi a fi yn isda yn y twllwch. Pawb arall allan yn ffrio yn yr haul...

Haul? Ganol mis Gorffennaf?? :ofn: Ella ddylswn i fentro allan o'r ogof yma bob hyn a hyn.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan dafydd » Llun 17 Gor 2006 8:19 pm

7ennyn a ddywedodd:Fyddai'n taro fewn bob nos ar ol gwaith ac mae yna bedwar tudalen o negeseuon newydd fel arfer. Heno 'doedd yna ddim ond dau dudalen. Be sy'n mynd ymlaen?

Mae pawb ar wyliau (a dyw'r myfyrwyr ddim o gwmpas)
7ennyn a ddywedodd:S'gin rhywun ffansi gwneud graff?

Dwi'n ddigon trist i gadw fy ngraff i o edefyn arall yp-tw-det gyda'r ystadegau.

Cynnydd y negeseuon - y linell goch yw'r tuedd dros amser
Delwedd

Nifer yr aelodau newydd bob mis
Delwedd

Cyfanswm nifer yr aelodau - mae'r llinell goch yn dangos y tuedd dros amser
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan 7ennyn » Llun 17 Gor 2006 9:01 pm

Wow! Diolch Dafydd!

Heb fynd i ddadansoddi'n fanwl, mae yna gydberthyniad cryf i'w weld rhwng y graff negeseuon a'r graff aelodau newydd. Mae'r graff negeseuon wedi gogwyddo'n serth yn dilyn y ddau gyfnod pan oedd y Maes ar gau i aelodau newydd.

Mae'n ymddangos bod Maes-e angen cyflenwad cyson o waed newydd er mwyn cynnal prysurdeb. Ella y dylid peidio a chau'r Maes i aelodau newydd eto yn y dyfodol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
7ennyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 869
Ymunwyd: Gwe 01 Gor 2005 8:35 pm
Lleoliad: Maes Gwyddno

Postiogan Mali » Llun 17 Gor 2006 9:41 pm

Ydwi'n gweld botwm newydd o dan dy neges 7ennyn :winc:
:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan huwwaters » Llun 17 Gor 2006 11:20 pm

Y rheswm bod nifer y negesuon wedi lleihau achos bod pobl wedi colli diddordeb. Fedri di ddim cynnal sgwrs call heb i rywun dorri ar ei draws efo rw sothach, felly pam ymdrechu?
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Mali » Sad 22 Gor 2006 12:17 am

huwwaters a ddywedodd:Y rheswm bod nifer y negesuon wedi lleihau achos bod pobl wedi colli diddordeb. Fedri di ddim cynnal sgwrs call heb i rywun dorri ar ei draws efo rw sothach, felly pam ymdrechu?


Hmm...gweld y maes yn reit dawel fyddai dyddiau yma , ac am ryw reswm does 'na ddim llawer o negeseuon dwi'n teimlo fel ymateb iddynt . :?
Lle mae'r fflach di mynd?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 22 Gor 2006 10:04 am

Mae gen i rhyw frith gof o rhyw edefyn am hyn sbel yn ôl. Ac os 'dwi'n cofio'n iawn HWaters oedd ar gefn ei geffyl pryd hynny (?) Dwi'n meddwl mai canlyniad yr edefyn yn y diwedd oedd fod hyn yn rhywbeth sy'n dueddol o ddigwydd o dro i dro - wrth i griwiach newydd o Faeswyr ymuno, ac wrth i'r hen Faeswyr gael llond bol ar agwedd drolaidd rhai ohonyn nhw. Hefyd, os dwi'n cofio'n iawn, cyngor HWaters ar y pryd oedd i unrhyw Faeswr sy'n teimlo fel hyn i gymryd hoe fach o'r Maes. Byddai hyn yn golygu y byddai'r Maes yn fwy o nofelti ac o bosib yn fwy ffres wrth ddychwelyd, ac efallai'n golygu pwysedd gwaed îs iddyn nhw yn y cyfamser!

Eiliaf â'r ddau ohonoch HW a M.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Y Fampir Hip Hop » Sad 22 Gor 2006 10:27 am

fflamingo gwyrdd a ddywedodd:Mae gen i rhyw frith gof o rhyw edefyn am hyn sbel yn ôl. Ac os 'dwi'n cofio'n iawn HWaters oedd ar gefn ei geffyl pryd hynny (?)

Ie fi'n cofio'r edefyn 'na - 'Maes e di golli ei fflam' odd y deitl. (trist bo fi'n cofio hynny :wps:). O ni newydd ar y pryd ac yn meddwl 'jiawch oti fi di neud rhwbeth?' :winc:
"Never trust a man in a blue trench coat, Never drive a car when you're dead..."

|Flickr|
Rhithffurf defnyddiwr
Y Fampir Hip Hop
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1129
Ymunwyd: Iau 24 Tach 2005 4:42 pm
Lleoliad: Abercraf, Cwm Tawe Ucha'

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sad 22 Gor 2006 12:10 pm

Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:'Maes e di golli ei fflam' odd y deitl. (trist bo fi'n cofio hynny :wps:). O ni newydd ar y pryd ac yn meddwl 'jiawch oti fi di neud rhwbeth?' :winc:


:lol:
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron