Tudalen 6 o 6

PostioPostiwyd: Iau 03 Awst 2006 4:58 am
gan Mali
Braf gweld y merched ymŷsg yr aelodau mwyaf swnllyd mis yma.
:D

PostioPostiwyd: Sad 23 Medi 2006 2:03 pm
gan Dave Thomas
dafydd a ddywedodd:Cynnydd y negeseuon - y linell goch yw'r tuedd dros amser
Delwedd


Ddim yn cytuno gyda llinell goch Dafydd ynglyn a'i graff negeseuon- nid yw'n ffitio'r data ddigon da. Mae'n berffaith amlwg fod dirywiad sylweddol ym mhrysurdeb y Maes dros y flwyddyn+ ddiwethaf: lawr o bron 10,000 neges y mis i tua 3,000 y mis.

PostioPostiwyd: Sad 23 Medi 2006 5:38 pm
gan dafydd
Dave Thomas a ddywedodd:Ddim yn cytuno gyda llinell goch Dafydd ynglyn a'i graff negeseuon- nid yw'n ffitio'r data ddigon da.

Nid fy 'llinell goch' i yw e, ond llinell goch Excel yn dangos y tueddiad dros amser - efallai nawr fod angen ffwythiant polynomial arno - gweler:
Delwedd

PostioPostiwyd: Sad 23 Medi 2006 5:58 pm
gan Dave Thomas
dyna well, go dda!!

PostioPostiwyd: Iau 04 Ion 2007 8:25 pm
gan Tegwared ap Seion
Beth ddigwyddodd i eusebio? Mae o wedi diflannu o'r rhestr aelodau ond dal yn yr ystadegau. A llongyfarchiadau Hedd ar gyrraedd 4000 neges! (Yndw, dwi dal ar fy ngwyliau :winc: )