Camgymeriadau yn Gymraeg maes-e

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Sad 07 Hyd 2006 10:00 am

Norman a ddywedodd:
Golygwyd gan Norman ar Sul Rhag 04, 2005 1:33 am, golygwyd ar 3 achlysur at ei gilydd


Tydir 'at ei gilydd' ddim yn swnio'n iawn i mi.


Ti'n iawn, mae 'at ei gilydd' yn golygu "on the whole" neu "usually" neu "on average". tybed ai "i gyd" fyddai orau fan hyn?
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan nicdafis » Sad 07 Hyd 2006 9:02 pm

Sdim angen dim byd rili, nag oes?

Cod: Dewis popeth
$lang['Edited_time_total'] = 'Golygwyd gan %s ar %s, dim ond yr unwaith'; // Last edited by me on 12 Oct 2001, edited 1 time in total
$lang['Edited_times_total'] = 'Golygwyd gan %s ar %s, golygwyd ar %d achlysur'; // Last edited by me on 12 Oct 2001, edited 2 times in total


Iawn?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan sian » Sad 07 Hyd 2006 9:35 pm

nicdafis a ddywedodd:Iawn?


Tshampion!
Yr unig beth - dw i ddim yn meddwl bod angen dweud "dim ond yr unwaith" - byddai jest "dim ond unwaith" yn gwneud y tro. Mae "dim ond yr unwaith" yn swnio fel cyfieithiad llythrennol o'r Saesneg - "only the once".
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan nicdafis » Sad 07 Hyd 2006 10:43 pm

Cyfieithu'n slafaidd o'r Saesneg? Fi?

:wps:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan dafydd » Maw 28 Tach 2006 1:56 pm

Newydd edrych ar dudalen y proffeil a sylwi un peth bach.. "Hysbysu am neges breifat newydd", nid hysbysebu.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan nicdafis » Maw 28 Tach 2006 2:12 pm

Diolch, wedi newid.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sul 03 Rhag 2006 11:02 am

Wedi symud y stwff am <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=20984">pen-blwydd ta penblwydd</a> - mae edefyn *yma* ar gyfer adrodd ar gamgymeriadau yn ieithwedd y maes, ac mae'n edefyn bach handi iawn i fi fel 'na. Diolch ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan *Dafydd* » Sul 03 Rhag 2006 12:03 pm

nicdafis a ddywedodd:Wedi symud y stwff am <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=20984">pen-blwydd ta penblwydd</a> - mae edefyn *yma* ar gyfer adrodd ar gamgymeriadau yn ieithwedd y maes, ac mae'n edefyn bach handi iawn i fi fel 'na. Diolch ;-)

Mae cwestiwn bach 'da fi, defnyddiwch chi "edefyn" ond ar ôl Geiriadur BBC
" thread (of argument, discussion etc), n , trywydd (nm)"

Ydy'r dau ohonyn nhw yn iawn?
Rhithffurf defnyddiwr
*Dafydd*
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 23
Ymunwyd: Iau 28 Ebr 2005 11:22 am
Lleoliad: De Cymru

Postiogan Socsan » Sul 03 Rhag 2006 1:03 pm

Sori Nic, dwi'n gwbod mai edefyn am gamgymeriadau'r maes di hwn, ond sgen i'm y gallu i symud sgyrsiau ayyb!

On in meddwl mai rhyw fath o play on words ydi 'thread' yn Saesneg, nid yn unig ffordd o ddisgrifio 'line of an argument/discussion', ond fel rhyw fath o metaphor - mae hyd y 'thread' yn mynd yn hirach ac yn hirach fel mae'r sgwrs ar y wefan yn mynd yn ei flaen. Felly yn fy marn i mae'r cyfieithiad llythernnol 'edefyn' yn dderbynniol yn y Gymraeg hefyd pan da chi'n cymryd hyn i ystyriaeth.

Jyst fy marn i ydi hyn, felly saethwch fi lawr hefo tystiolaeth o'r Briws ar bob cyfrif! ;)
Sbrangeg
Rhithffurf defnyddiwr
Socsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 284
Ymunwyd: Mer 30 Tach 2005 10:01 am
Lleoliad: Sgawsland

Postiogan sian » Sul 03 Rhag 2006 1:32 pm

Socsan a ddywedodd:Jyst fy marn i ydi hyn, felly saethwch fi lawr hefo tystiolaeth o'r Briws ar bob cyfrif! ;)


Na, dw i'n meddwl y cei di ddod mas o'r byncer nawr!
Dim bod gen i hawl i siarad dros Briws :wps: - ond fel'na oeddwn i wedi meddwl amdano hefyd.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Nôl

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron