Sori Nic, dwi'n gwbod mai edefyn am gamgymeriadau'r maes di hwn, ond sgen i'm y gallu i symud sgyrsiau ayyb!
On in meddwl mai rhyw fath o
play on words ydi 'thread' yn Saesneg, nid yn unig ffordd o ddisgrifio 'line of an argument/discussion', ond fel rhyw fath o metaphor - mae hyd y 'thread' yn mynd yn hirach ac yn hirach fel mae'r sgwrs ar y wefan yn mynd yn ei flaen. Felly yn fy marn i mae'r cyfieithiad llythernnol 'edefyn' yn dderbynniol yn y Gymraeg hefyd pan da chi'n cymryd hyn i ystyriaeth.
Jyst fy marn i ydi hyn, felly saethwch fi lawr hefo tystiolaeth o'r Briws ar bob cyfrif!