Camgymeriadau yn Gymraeg maes-e

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Ifan Saer » Sad 10 Ion 2004 5:46 pm

Allwn ni newid y cyfeiriadau at y 'dudalen ffrynt' i dudalen flaen? (mae'n ymddangos ar o; gyrru neges bersonol.)

Ymddiheuriadau lu os ydio wedi'i wneud yn barod. Allai ddim gweld gan nad oes gen i neges i'w gyrru.
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Ifan Saer » Sad 10 Ion 2004 5:50 pm

"Ieithoedd eraill - Dysgu iaith arall? Rhannu eich profiadau"

newid i Rhannwch eich profiadau
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Ifan Saer » Sad 10 Ion 2004 5:54 pm

Hehehehe dwi'n amlwg yn bedant llwyr.

"Cell gymysg ieithyddol - Unrhywbeth sy ddim yn ffito yn yr uchod"

Dwin derbyn mai well fyddai awgrymu rhywbeth arall, ond fedrai ddim meddwl. Rhowch funud i fi. Ond mi faswn i'n cywiro be' sydd yna i...

Unrhywbeth sydd ddim yn ffitio yn yr uchod.

Aha! Brenwêf!!

Beth am "Unrywbeth na all ei drafod uchod"?

Newydd sylwi fod yr un peth yn wir am y celloedd cymysg eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Ifan Saer » Sad 10 Ion 2004 5:59 pm

Un ola am y tro...(wir yr)

"Ar goll ar y we - Wedi ffeindio rhywbeth diddorol?"

Ffeindio ddim yn air Cymraeg go-iawn, felly beth am "Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?"

Reit, mi wnai gau fy ngheg rwan.
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan Ifan Saer » Sad 10 Ion 2004 6:06 pm

Blydi hel, allai ddim rhoi'r gorau iddi...

Ar y dudalen 'proffeil', adran rhithffurf...

Panal rheolu rhithffurfau - newid i Panel rheoli rhithffurfiau


Ymddangos delwedd bach dan eich manylion mewn negeseuon. Cewch chi ddim ond un delwedd ar y tro, ac mae rhaid iddo fod yn llai na 80 picsel ar draws, 80 picsel uchel a dim mwy na 6kB.

newid i...

Gallwch gael delwedd i ymddangos oddi tan eich manylion mewn negeseuon. Chewch chi ddim ond un delwedd ar y tro, ac mae'n rhaid iddo fod yn llai na 80 picsel ar draws, 80 picsel o uchder...

Ond falla mod i'n anghywir efo hwnna.
Rhithffurf defnyddiwr
Ifan Saer
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1412
Ymunwyd: Gwe 18 Gor 2003 7:08 pm
Lleoliad: Ar fy nhin o hyd

Postiogan nicdafis » Sul 11 Ion 2004 11:21 am

huwwaters a ddywedodd:Am fod Cymru yn enw beynwaidd unigol, dyle fo fod:

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fechan


Sa i'n siwr am hynny, Huw. Am wn i, "bechan" yw'r ffurf benywaidd o "bychan". Does dim ffurf benywaidd arbennig i "bach".

Gwglffeit amdani: <a href="http://www.google.com/search?q=cymru.fach&ie=ISO-8859-1&hl=cy&btnG=Chwilio+Google">Cymru fach</a> 301 canlyniad - <a href="http://www.google.com/search?hl=cy&ie=ISO-8859-1&q=cymru.fechan&btnG=Chwilio+Google">Cymru fechan</a> 5 canlyniad.


Ifan Saer a ddywedodd:'dudalen ffrynt' i dudalen flaen


Iawn.

Ifan Saer a ddywedodd: Rhannwch eich profiadau


Iawn.

Ifan Saer a ddywedodd:Unrywbeth ["ieithyddol"] na all ei drafod uchod


Dw i'n hoffi'r awgrymiad ond mae angen rhywbeth arall hefyd - mae'r seiadau yna yn troi yn "Flwch Tywod" dan enw arall. Yr un peth gyda'r Celloedd Cymysg eraill.

Ifan Saer a ddywedodd:Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?


Iawn.

Ifan Saer a ddywedodd:Gallwch gael delwedd...


Iawn. Mae Gruff Goch yn gweithio ar restr o gywiriadau am y dudalen honna, felly bydd mwy o newidiadau bychain (iawn, Huw? ;-)) i ddod.


Diolch yn fawr i bawb am yr awgrymiadau. Dalwch ati. (Mae'n bosib na fydda i'n ymateb mor gyflym ag arfer (bishi yn y byd go iawn) ond dw i'n gwylio'r pwnc 'ma felly bydda i'n gweithredu unrhyw awgrymiadau call yn hwyr neu'n hwyrach.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Sul 11 Ion 2004 5:03 pm

Jyst rhag ofn i unrhywun arall sylwi ar y "Parse Error" (diolch Chris), oedd y bai am hwnna ar Ifan Saer, am ddefnyddio collnod yn ei gywiriad i'r peth am rithffurfiau.

Wel, o'r gorau, arna i oedd y bai am beidio sylwi oedd collnod 'na, ac am beidio profi oedd popeth yn iawn ar ôl wneud y newidiadau... :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan brenin alltud » Llun 12 Ion 2004 10:15 am

Ifan Saer a ddywedodd:"Unrhywbeth sydd ddim yn ffitio yn yr uchod.


Mae 'unrhyw beth' yn ddau air rhag ofn bo chi'm yn gwbo'.

Ifan Saer a ddywedodd:Beth am "Unrywbeth na all ei drafod uchod"?


Dyw hwn ddim yn hollol gywir. 'Unrhyw beth na ellir ei drafod uchod' yn fwy cywir...

Be' am 'sgwarnogod ieithyddol' a la'r Prifardd Twm Morys? :winc:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 12 Ion 2004 10:49 am

Neu "Unrhyw beth nad yw'n cyd-fynd a^'r uchod"? (Wy' dal yn rhy thic i 'neud to bach ar ben yr a :wps: )
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan brenin alltud » Maw 20 Ion 2004 5:18 pm

Ifan Saer a ddywedodd:Beth am "Unrywbeth na all ei drafod uchod"?


Ymmmm... mae hwn yn dal yn anghywir! gw. uchod am argymhelliad!!

sori :wps:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai