Tudalen 14 o 16

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 8:28 am
gan Dwlwen
Hen Rech Flin a ddywedodd:Ond pe bait wedi gofyn imi ba un o'r ddau liw uchod sydd yn agosaf, yn fy nhyb i, i'r "porffor ymerodrol traddodiadol" mi fuaswn wedi dewis yr ail un. Rhyw goel gennyf, yng nghefn fy meddwl, bod perthynas esgynnol rhwng "Royal Blue" a'r porffor ymerodrol siŵr o fod!

Snap - o'n i wastad yn meddwl fod piws yn agosach at goch, tra fod porffor mwy tua glas... Ond wedi meddwl am 'borffor' eglwysig, mae'r lliw wy'n dychmyu yn agosach at borffor Gronw uchod. Af i fi 'neud rhywbeth o werth...

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 5:06 pm
gan gronw
Hen Rech Flin a ddywedodd:Rwyf wastad wedi credu mai pendantrwydd merchetaidd...

amau dim :D

PostioPostiwyd: Gwe 09 Medi 2005 5:17 pm
gan Al
nicdafis a ddywedodd:
al a ddywedodd:Gyda llaw, mae tipyn o'r e-byst sydd yn cael ei gyrru allan yn awtomatic efo 'a' fel %. Dwi di neud ffeiliau sgarmes, neud o mewn cachiad


Ie, sai'n deall beth sy'n digwydd yna. Problem gyda'r "character encoding" siwr o fod - dw i erioed wedi cael gafael ar y busnes 'na. Dyma'r cod:

Cod: Dewis popeth
Subject: Cais i ymuno â'ch cylch defnyddwyr
Charset: iso-8859-1

Annwyl {GROUP_MODERATOR},

Mae defnyddiwr ar {SITENAME} wedi gofyn i ymuno â'ch cylch defnyddwyr "{GROUP_NAME}". I dderbyn ynteu wrthod y cais rhowch glec ar y ddolen isod:

{U_GROUPCP}

{EMAIL_SIG}


Pam mae'r <b>â</b> 'na yn droi yn <b> ‰ </b> tybed?


Wy ti wedi newid y ffeiliau? Mae y % dal yn dod trwy..

Pam ddim rhoi y 'â' fe 'a'? Man debyg fydd hwna yn gweithio, dyna dwi di neud i sgarmes...

PostioPostiwyd: Mer 17 Mai 2006 11:22 pm
gan Tegwared ap Seion
Wedi ymweld

PostioPostiwyd: Iau 18 Mai 2006 11:27 am
gan Gwen
Paid ag awgrymu cywiriadau oni bai dy fod yn gwybod yn well! :drwg: Does na ddim acen ar 'cod' ac mae na ddwy 'n' yn llythrennau.

PostioPostiwyd: Iau 18 Mai 2006 11:34 am
gan Fflamingo gwyrdd
Gwen a ddywedodd:Paid ag awgrymu cywiriadau oni bai dy fod yn gwybod yn well! :drwg: Does na ddim acen ar 'cod' ac mae na ddwy 'n' yn llythrennau.


Cytunaf. OND, mae'r (prif)bwyntiau y mae TapS yn eu gwneud yn rhai dilys - ti'm yn meddwl?

1) Mae 'na air ar goll rhwng "gallu" a "cod"
2) Mae 'na ddiffyg treiglo "llythrennau"

Dwi o dan yr argraff mai gofyn am y pwyntiau ychwanegol (cod/c

PostioPostiwyd: Iau 18 Mai 2006 3:02 pm
gan nicdafis
Diolch, wedi trwshio.

PostioPostiwyd: Iau 22 Meh 2006 4:03 pm
gan Dewi Bins
Ar broffil pawb drws nesa i'r bwtwm "neges" mae'n deud Neges Preifat. Dwi'n meddwl fod camgymeriad treiglo yn fan yma. Neges Breifat y dylai fod.

PostioPostiwyd: Mer 13 Medi 2006 11:23 pm
gan krustysnaks
Pan ry'ch chi'n anghofio rhoi teitl i neges breifat mae na neges yn dweud "Rhaid rhoi teitl i'r trafodaeth newydd" yn ymddangos.

PostioPostiwyd: Iau 14 Medi 2006 12:58 pm
gan nicdafis
Diolch am y ddau uchod, wedi trwshio.