Tudalen 1 o 67

Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 2:18 pm
gan nicdafis
Mae Barbarella yn gweithio ar gwpl o welliannau i'r hen faes, ac un ohonyn nhw fydd bocs newydd ar y dudalen flaen a fydd yn dangos dyfyniadau ar hap, wedi'u dewis o restr arbennig mae Grwp Llywio yn cadw. Byddai'n help mawr i ni 'sech chi'r aelodau "cyffredin" (does dim fath peth ag "aelod cyffredin" ar faes-e, wrth gwrs, dych chi i gyd yn sbeshial). Postiwch eich hoff ddyfyniadau yn yr edefyn 'ma, mewn bocs dyfynnu arferol:

nicdafis a ddywedodd:fel hyn


Dyn ni'n edrych am bethau eitha byr, doniol neu ddoeth.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 2:22 pm
gan Leusa
Mi gafon ni lot o rai da pan oedden ni yn trafod beth i gael ar grysau maes-e cyn Steddfod flwyddyn dwetha, cofio?! :lol:

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 2:25 pm
gan Barbarella
Leusa a ddywedodd:Mi gafon ni lot o rai da pan oedden ni yn trafod beth i gael ar grysau maes-e cyn Steddfod flwyddyn dwetha, cofio?! :lol:

Mae'r rhai yna i fewn yn barod!

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 2:28 pm
gan eusebio
Gwyn T Paith a ddywedodd:Be - wyt ti'n drio deud dy fod ti methu meddwl yn anibynnol tan oeddet ti'n 19? Duw a'n ffocin helpa ni. Mi oeddet ti'n cael dreifio a phledleisio erbyn hynny!!


Athrylith!

o'r edefyn yma

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 2:29 pm
gan Leusa
ah, gwych!

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Cynan Llwyd a ddywedodd:ie ma copi di cyrradd ty ni! gwd stuff!


ma copi yn ty ni cos o ni yn carchar efo sleepflower y lembo


(gesh i laff am hona!)

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 5:22 pm
gan Mr Gasyth
Cardi bach a ddywedodd:Wi'n caru George Bush, odw wi rili yn.


Dwi'm yn cofio lle gweles hi, ond ma hi'n cuddio yng nghrombil y maes yn rywle dwi'n bendant. :winc:

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 2:22 pm
gan TXXI
mogwaii a ddywedodd:dr nick - ian cottrell?

HI EVERYBODY!! HI IAN COTTRELL!!

Athrylith!
o'r edefyn Castio'r Simpsons Cymraeg

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 6:10 pm
gan Rhys Llwyd
Chwadan a ddywedodd: Diolch i bobl y Gorlan am y CD ond o ni rhy hungover i gal troedigaeth
[/quote]

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 6:17 pm
gan Macsen
Wierdo a ddywedodd:Tra boni ar armadilos mana math o gitar bach wediw neud allan o armadilos - charangos ond rwan manw di neud allan o bren...colli'r holl gymeriad...

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 6:29 pm
gan Rhys Llwyd
dwin cofio rwbeth tebyg i'r canlynol:

Nic a ddywedodd:
Johnny-R a ddywedodd:Mar lle yma mor ddiflas, dwi'n cofio chydig o fynd ar y lle tua blwyddyn yn ol.
pawb yn blydi boring W**** yma.


Un llai nawr :winc:
Wedi dy fanio! :lol: