Ray Diota a ddywedodd:ai. fi'n dwli darllen cymrâg y fampir 'fyd... es i'n uffernol o grac sbel yn ôl pan gymrodd rhyw gog y piss mewn rhyw edefyn gan gwyno nad odd e'n deall... mochyn.
A finna' i'ch canlyn. Mi ail darllenish i'r dyfyniad yma (
yn uchel! )drosodd a throsodd. Nid am fy mod ddim yn ei ddeall, ond am ei fod yn swnio mor neis. Mi fuis i bron a gwneud sylw am y peth, ond penderfynu peidio, rhag iddo gael yr effaith groes!
Cîp ut yp Famp, mae o'n lyfli clywed tafodiaeth iach yn dod drwy ysgrifen. 'Di ddim i'w chlywed yn aml, nachdi?
(wrth fy modd efo geiriau fel cwnni ayyb) - mae'r dyn yn defnyddio ambell i un, ond dim hanner cymaint a'r Fampir