Tudalen 65 o 67

Re: Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Iau 08 Mai 2008 7:34 am
gan sian
Ie, wir, ro'n i'n chwilio am y botwm Carma ar gyfer y neges yna!

Re: Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Llun 21 Gor 2008 8:43 am
gan sian
Yn edefyn Sesiwn Fawr Dolgellau ar ôl i Rhodri Glyn Thomas ymddiswyddo am gerdded i mewn i dafarn â sigâr ynghynn:

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Un peth, ai dim ond fi oedd yn credu fod Chiz mas o diwn yn rhacs neithiwr o'r dechre i'r diwedd? Sharp ym mhob cân.



Cilan a ddywedodd:Lwcus Nad ydi o'n un o weinidogion y Cynulliad - 'sa fo wedi gorfod ymddiswyddo.

Re: Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Sad 16 Awst 2008 9:09 pm
gan Fflamingo gwyrdd
sian a ddywedodd:Yn edefyn Sesiwn Fawr Dolgellau ar ôl i Rhodri Glyn Thomas ymddiswyddo am gerdded i mewn i dafarn â sigâr ynghynn:

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Un peth, ai dim ond fi oedd yn credu fod Chiz mas o diwn yn rhacs neithiwr o'r dechre i'r diwedd? Sharp ym mhob cân.



Cilan a ddywedodd:Lwcus Nad ydi o'n un o weinidogion y Cynulliad - 'sa fo wedi gorfod ymddiswyddo.


Mi wn nad fan hyn yw'r lle i ddatgan hyn - ond mi roedd Elfyn Llwyd yn y Sesiwn fawr yn smocio sigâr...

Re: Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 10:25 pm
gan Hedd Gwynfor
Rydym ni'n gobeithio gallu atgyfodi blwch Hoff ddyfyniadau maes-e yn fuan iawn. Nodwch eich hoff ddyfyniadau yn ystod y misoedd/blwyddyn diwethaf yma, gyda dolen at lleoliad y neges plis.

DIolch.

Re: Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 11:42 pm
gan ffwrchamotobeics
Does dim -pawb ar Facebook!

Re: Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Sul 22 Chw 2009 11:57 pm
gan eusebio
ffwrchamotobeics a ddywedodd:pawb ar Facebook!


Dyma fy hoff ddyfyniad i ...!

Re: Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 9:53 am
gan Hedd Gwynfor
ffwrchamotobeics a ddywedodd:Does dim -pawb ar Facebook!


Digon gwir, ond dal 1,000 ymwelydd i'r maes bob dydd, er tipyn yn llai yn cyfrannu erbyn hyn...

eusebio a ddywedodd:
ffwrchamotobeics a ddywedodd:pawb ar Facebook!


Dyma fy hoff ddyfyniad i ...!


Wedi ei ychwanegu! :o

Re: Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Llun 23 Chw 2009 10:06 am
gan Hedd Gwynfor
Dr Strangelove a ddywedodd:LOL! ffycin pobol sy'n gorffen brawddeg doniol/neu ymateb i frawddeg doniol efo ffycin LOL. wancers llwyr.

Re: Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Maw 03 Maw 2009 10:01 pm
gan sian
Ray Diota yn yr edefyn Cân i Gymru 2009 a ddywedodd:nagyw gwylio can i gymru a cwyno bod y caneuon yn cheesy fel watsho ffwtbol a cwyno bo nhw'n cicio'r bel? chi'n gwbod be chi am gal cyn tiwnio mewn i'r shit nagych chi?

Re: Hoff ddyfyniadau o'r maes

PostioPostiwyd: Maw 03 Maw 2009 10:15 pm
gan Duw
sian a ddywedodd:
Ray Diota yn yr edefyn Cân i Gymru 2009 a ddywedodd:nagyw gwylio can i gymru a cwyno bod y caneuon yn cheesy fel watsho ffwtbol a cwyno bo nhw'n cicio'r bel? chi'n gwbod be chi am gal cyn tiwnio mewn i'r shit nagych chi?


Da iawn Sian/RD - wedi'i gynnwys!