Rwy´n awgrymu sefydlu seiat neu glwb newydd, sef cwrddfan serch i bobl sydd yn chwilio am gymar a hynny ar ol darllen cerdd anhygoel rhyw ogynfardd:
Synnwn i ddim am fardd a fyddai´n canmol Cymraeg pert rhwy ferch Aber, Cei Newydd neu Pwllheli heddiw, canmol ei hiaith bert yn hytrach na´ei phryd pert, am nad bratiaith mae hi´n siarad, ond yn y 12 fed canrif (!!) buodd e´n barddoni... . Mae´n gerdd sy´n clodfori croten ifanc, mae´n debyg, o´r enw Nest. A dyma osododd y syniad i´m pen - byddai ambell Nest ac ambell Hywel i´w cael yn Llwyn yr Eos - dyma fyddai´n enw priodol am seiat neu glwb o´r fath, fel llwyn yn amser Dafydd ap Gwilym, ond llwyn i´r Cymry Cymraeg a´i ffrindiau i gyd, llwyn i ambell bardd cocos a bardd ty bach, ambell Hywel ap Owein Gwynedd, Dafydd ap Gwilym neu Gwerful Mechain ail-law, i´r rhai sy´n o ddifri ac i´r rhai sy´n o ddigri... leiciwn i glywed barnau am y llwyn´ma....
"Gwddig"