y peth gyntaf ddwedais ar faes-e, nol yn y dydd a ddywedodd:I mi, C'mon Midffild yw'r peth gorau ma s4c di wneud o bell ffordd. Pam na all neb gwenud rhaglen or run safon dyddie hyn? Does ddim rhaid i rhaglenni fod yn arbrofol neu artisitg pob tro. Ma angen rhaglenni fydd yn sticio yn meddyliau pobl am byth, fel ma C'mon Midffild di wenud da fi a llawer rwy'n nabod. Roedd yn rhaglen syml, roedd y hiwmor a'r cymeriadau yn debyg iawn i bobl dwi di cwrdd yn y gogledd (no offence intended!) A faint o weithie da chi di bod yn canu Bryn Coch ar ddiwedd sesh? Clasur. A cymeriadau gwych. Yn gymharol ac Only Fools and Horses. A dim teimlad ma ond rhyw rhaglen arall i gadw'r cyfryngis mewn gwaith. Roedd on amlwg fod pawb yn cael hwyl tra'n ffilmio'r rhaglen.
A diolch i sgorio am fy'n addysgu am pel-droed y cyfandir o oedran cynnar!
Di bod oesoedd ers fi ganu Bryncoch ar sesh, dim di byw yn y gogledd ers dwy flynedd nawr!