Rhys Llwyd a ddywedodd: Dwi'n deall pam fod pobl yn defnyddio enwau ffug, ac felly yn deall pam ei fod yn foesol anghywir, yn yn bersonol bwysig i fi yn gristnogol anghywir ac an-onest.
Dwi'n gwybod beth ydy enwau go-iawn llawer o 'radicals maes-e' fel Macsen, ac yn eu adnabod hefyd. Dwi'n gwbod yn iawn hefyd na fedr y rhanfwyaf ohonynt sefyll dros be ma nhw'n dweud ar maes-e yn y cyg-fyd, na chwaith gweithredu yr hyn ma nhw'n brygethu ar maes-e. Dwi'n meddwl fod hynny yn drist iawn.
'Radicals Maes-E'?
Doeddwn i heb weld hwn o'r blaen, tan i Dylan dy ddyfynu. Ga'i ofyn, sut yn union mae fy marn i yn wahanol yn y cig fyd, Mr Llwyd? Falle dy fod ti'n meddwl dy fod ti'n fy 'nabod i', ond dwi'n meddwl bod barn y ddau ohonan ni wedi newid ers ddyddiau Bryn y Groes a dan ni bron heb weld ein gilydd ers hynny. Gan dy fod ti wedi fy enwi i yn arbennig dwi'n meddwl fy mod i'n haeddu ymateb.
(Neges breifat os tisho, cyn bod yr edefyn yma wir yn taro'r cach).
Fel mae pobl sy'n fy nabod yn gwybod dw i ddim yn troi mewn i ryw fath o Mr Hyde pam dwi'n logio mlaen i'r Maes. Dwi'n gwario fy nyddiau mewn seminarau a darlithoedd yn trafod yr union bethau dw i fel arfer yn siarad am ar y Maes.
Felly pam tydw i ddim yn defnyddio fy enw go iawn ar y Maes? A) Am ei fod o'n uffernol o hir ac yn joban iw sgwennu mewn bob tro dwi am gofnodi. B) Tydi pobl eraill ddim, sydd yn ychydig o broblem pam dwi'n cyfarfod rywun sy'n nabod fi, ond dwi'm yn nabod nhw, ac yn defnyddio'r gwybodaeth mewn ffordd sydd ddim yn deg iawn. C) Nostalgia am ddyddiau ffug enw Eisteddfod Waunfawr. Ah, rheini oedd y dyddiau. D) Dwi'n hoffi'r enw Macsen. I raddau mwy na dwi'n hoffi fy enw gwreiddiol. Be oedd fy rhieni yn meddwl? Tsk, tsk, tsk.