Sori Gwion, ond Dr wyt ti.
Cwestiwn - ydi pobol yn mynd i beidio mynegu eu barn fan hyn os oes peryg eu bod yn mynd i ymddangos rhywle arall?
Gobeithio dim, ond mae'n rhywbeth sy'n werth meddwl amdano.
Cwestiwn arall - onid ydio'n beth peryg iawn i golofnydd ddyfynnu Maes -E neu fforymau eraill pan nad ydio'n gallu cadarnhau pwy yw'r awdur? Fe allai fod yr un mor hawdd iddo yrru dyfyniad i mewn ei hun i'w ddefnyddio yn y golofn neu greu rhithffurf sy'n mynegu daliadau ffiaidd er mwyn gwneud stori dda.
Ond mae hynny yn wir tu hwnt i'r we. Cyfrifoldeb y gohebydd yw sieco ei ffynhonnau, ond yw e? Mae'n ddigon hawdd i gysylltu ag unrhyw aelod maes-e - creu cyfrif, hala neges sydyn atyn nhw. Doedd dim byd yn erthygl Brooks oedd yn ffiaidd, ond mae popeth sy'n cael ei bostio i'r maes yn y "parthiad cyhoeddus" (sori, <i>public domain</i>, dyw Bruce ddim yn handi) - dyw Brooks ddim wedi wneud dim byd o'i le, am wn i.
Ddim byd yn erbyn y maes, mae'n gret i weld fod o'n cael sylw, ond mae isio bod yn ofalus....
Mae eisiau bod yn ofalus bob tro ti'n dweud rhywbeth mewn fforwm cyhoeddus, boed ar y we neu fel arall.