dafydd a ddywedodd:Yr unig beth fase'n i'n ddweud yw fod e'n eitha peryglus i ddyfynnu heb ganiatad. Gall rhywun wneud sylw ar y Maes yna mae'n cael ei ddileu am pa bynnag reswm (falle fod y cyfrannwr o dan ryw "ddylanwad" ar yr amser, neu falle fod rhywun arall wedi ffugio'r cyfraniad)
Mae hyn yn wir, a dw i'n cytuno y byddai wedi bod yn syniad da i Simon Brooks sieco gyda'r awduron - ond eto, doedd hynny ddim yn <i>anghenrheidiol</i> yn yr achos hwn, jyst yn fwy cwrtais/gofalus.
Mae dy bwynt am "rhywun arall wedi ffugio'r cyfraniad" yn un <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=5712">dilys iawn</a>
dafydd a ddywedodd:Mi roedd achos fel hyn gyda ebost (preifat) Robin Gwyn i'w ffrindiau yn cael ei ddyfynnu gan y BBC fel 'stori sgandal'.
Sefyllfa tra wahanol fyddwn i'n dweud, ond eto i gyd mae cynnwys ebost yn eiddo y person sydd yn derbyn yr ebost, nid i person sy'n ei sgwennu. Pwyll biau hi, bob tro.
dafydd a ddywedodd:Mae papurau a chylchgronau lloegr yn ofalus iawn am beth mae nhw'n gyhoeddi yn enwedig dyfynniadau- efallai fod dim angen gwneud hynny yn Gymraeg am ein bod ni gyd mor neis (a'r gymuned mor fach) fel nad oes llawer o neb eisiau mynd a achosion o'r fath i'r gyfraith?
Mae achos <a href="http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/1496411.stm">Gwilym ab Ioan</a> yn dangos bod dim angen mynd â'r peth i'r llys i eiriau "ar y we" gael effaith difrifol yn y byd "go iawn". Y gwir yw, wrth gwrs, bod y we yn <i>rhan</i> o'r byd go iawn, er bod ni'n tueddu sôn amdani fel rhywbeth ar wahan (y "rhithfro" ac ati) ac mae popeth sy'n cael ei ddweud ar y we yn cael ei ddweud yn y byd go iawn ac yn cael effaith ar bobl go iawn.
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl fod hi'n deg fod pobl sy ddim yn aelodau yn medru darllen y maes. e.e petawn yn gwbod fod pobl fel Seimon Brwcs, Dafydd Iwan rhai enghreifftiau yn darllen y maes byddwn efallai yn atal rhai sylwadau.
Mae maes-e yn fforwm cyhoeddus, a does dim awydd 'da fi i newid hynny. Mae cwpl o seiadau tu fewn i'r maes sy ddim yn gyhoeddus (yr un Cymdeithas yr Iaith er enghraifft) a fyddwn i ddim yn hapus weld geiriau o'r seidau 'na gael eu dyfynnu. Ond wedi dweud hynny, does dim modd i mi yn bersonol sicrhau na fydd rhywun cael ymuno â seiat preifat ac wedyn defnyddio pethau sy'n ymddangos ynddo yn y wasg.
Bob tro dw i'n sôn am unrhywun ar y maes dw i'n meddwl sut byddai'r person hwnna yn teimlo 'sen nhw'n darllen y sylwadau. Mewn gwlad mor fychan, dyw e ddim yn annhebyg y bydda i'n cwrdd â'r person dan sylw rhyw ddydd, neu o leia rhywun sy'n ei nabod.
Unwaith eto, pwyll biau hi, oni bai bod dim ots 'da ti bod pobl yn meddwl dy fod di'n berson cas.
Mae <i>pawb</i> yn darllen maes-e, ond ydyn nhw?
Rhys Llwyd a ddywedodd:Dwi'n argyhoeddedig fod cuddio tu ol enwau ffug yn anghywir!!!!
Dw i'n argyhoeddedig bod gor-ddefnydd o !!!s yn anghywir, ond dw i ddim yn disgwyl i neb wrando arnaf
Na, dw i'n cytuno â ti Rhys, y byddai'r maes yn lle wahanol, ac yn fwy dymunol (ond efallai yn llai diddorol) 'sai pawb yn gorfod defnyddio eu henwau go iawn. Yn anffodus, dw i'n siwr y byddai llawer llai o aelodau 'da ni 'sen ni'n wneud rheol ohono fe.
Mae busnes defnyddio "persona" ar y we yn un diddorol ynddo ei hun, ond mae'n gor-symleiddio i feddwl nad yw "nicdafis" cymaint o bersona â "RET79" neu "Macsen".
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dw i am fynd i brynu copi heddiw ta!
Unrhywun wedi meddwl falle bod Brooks wedi wneud hyn er mwyn gwerthu mwy o gopiau o Farn?
<i>Defnyddwyr cofrestredig: 1026</i>