Cytunaf efo chi Gronw Pebr, fforwm gyhoeddus yw maes e ag yn naturiol mae llawer o Gymry Gymraeg yn eu ddarllen. Dwi wedi dweud pethau drwg am berson ar y maes yn y gorffenol ac mae' r person wedi ei ddarllen. Ond os ti' n mynd ar wefan gyhoeddus i fynegi dy farn mae rhaid derbyn bod gall riwyn ei ddarllen.
I fod yn onesd dwi ddim yn meddwl y byddai maes e yn well lle , pe bau pawb yn defnyddio eu enwau go iawn. Y rheswm dwi' n dweud hyn yw oherwydd byddai' n difetha naws a awyrgylch y maes. Byddai pobl yn llawer llai barod i fod yn ddiflewin ar dafod ag yn rhy barod i weniaethu.