e-bost maes-e

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

e-bost maes-e

Postiogan Panom Yeerum » Maw 04 Mai 2004 4:52 pm

Nic, syniad! Beth am wobrwyo y maeswyr sy'n cyrraedd rhyw nod arbennig (3000 neges?) efo e-bost maes-e? Rhoi rhywbeth yn ôl i'r prif gyfrannwyr.
Panom Yeerum
 

Postiogan eusebio » Maw 04 Mai 2004 4:55 pm

Mae 'na ormod o faeswyr sydd yn postio er mwyn postio a chyrraedd rhyw nifer arbennig o negeseuon fel mae hi - does dim angen rhoi rheswm iddynt wneud hynny hefyd!

Mae un neu ddau o negesfyrddau fyddai'n ddefnyddio wedi cael gwared â'r 'nifer negeseuon' yn gyfan gwbwl am yr union reswm yma - h.y. pobl yn postio llu o rwtsh er mwyn ymddangos fel rhan 'gwell' o'r rhith-gymuned na rywun â llai o negeseuon.
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Panom Yeerum » Maw 04 Mai 2004 4:58 pm

pwynt teg. Beth am pob blwyddyn (neu 6 mis - dwi'myn siwr) Cynnal pôl i weld pwy dylsai ennill y cyfeiriad e-bost. Oes gan ein creuwr farn am hyn?
Panom Yeerum
 

Postiogan nicdafis » Maw 04 Mai 2004 5:22 pm

Dw i wedi cynnig cyfeiriadau maes-e i unrhywun oedd â diddordeb, ond oedd hynny yn sbel yn ôl. Maen nhw'n dal ar gael.

Ac mae wish list Amazon 'da fi o hyd.

Does dim cysylltiad rhwng y ddau ffaith uchod.

D.S. dim ond cyfeiriadau ail-gyfeirio yw'r rhai maes-e - mae rhaid bod ebost POP neu bost-we sgwarnogaidd 'da ti er mwyn eu defnyddio.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan cymro1170 » Maw 04 Mai 2004 6:35 pm

Beth am werthu ebost maes-e?
Mi fuasai'n dod a arian i fewn i ti Nic i helpu gynnal y maes?
Rhithffurf defnyddiwr
cymro1170
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 699
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:14 am
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan Panom Yeerum » Maw 04 Mai 2004 6:39 pm

a tra da ni wrthi - beth am adio hysbysebion a pop ups bach neis?
Panom Yeerum
 

Postiogan cymro1170 » Maw 04 Mai 2004 7:37 pm

Mae bobl eisiau ebost maes-e - tydi bobl ddim eisiau pop-ups a rhiw lol fel yna!
Rhithffurf defnyddiwr
cymro1170
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 699
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:14 am
Lleoliad: Blaenau Ffestiniog

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 04 Mai 2004 7:42 pm

Ma'r syniad ebost 'ma'n wych (er ni ddylid ceisio tynnu busnes wrth sgwarnog.com)

Efallai mewn rhai blynyddoedd mae-e fydd y portal Cymraeg h.y Negesfwrdd, sgwrsio, chwilio a ebost? :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Dr Gwion Larsen » Maw 04 Mai 2004 7:42 pm

cymro1170 a ddywedodd:Mae bobl eisiau ebost maes-e - tydi bobl ddim eisiau pop-ups a rhiw lol fel yna!
Clywch-clywch!
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Panom Yeerum » Maw 04 Mai 2004 7:46 pm

bod yn wirion oeddwn i! Dwi'n meddwl dylai rhywun haeddu'r cyfeiriad - does neb isio rhywun fel pogon neu bambi i gal e-bost maes-e!
Panom Yeerum
 

Nesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai