mae botwm anwybyddu i'w weld yn gweithio'n dda ar fforwm arall dw i'n ymweld â hi nawr ac yn y man - ti'n gweld bod yna negeseuon a gan bwy ydyn nhw, a dim ond un clic sydd os wyt ti'n amau bod ti isio gweld post gan rywun dy fod wedi'i anwybyddu...
wrth gwrs, mae hynny'n opsiwn ar gael yn vBulletin ond dim eto yn phpBB. tasai'n cyrraedd yn y pen draw yn phpBB a bod Nic yn penderfynu gwneud yr uwchraddio am resymau eraill, 'swn i'n pleidleisio dros cynnig yr opsiwn - da 'dy dewis, wedi'r cyfan.
ond mae hefyd angen i bobl sy'n postio gormod o negeseuon di-bwynt rheoli eu hunain yn well er lles pawb. 'swn i'n llawer tebycach o ddarllen cyfraniadau rhai aelodau taswn i'n gwybod bod nhw ddim yn malu cachu y tu allan i'r Blwch Tywod...