gan nicdafis » Iau 06 Mai 2004 8:39 pm
Neu, beth am gylch arbennig i bobl gyda dim byd gwell i wneud na chwyno am grwp bach o ddefnyddwyr dyn nhw ddim yn lico, ond dyn nhw ddim yn gallu anwybyddu? Dw i'n derbyn llawer mwy o gwynion ynglyn â chyfraniadau "Pobl y dde" (sef, erbyn hyn, ti a pogon) nag ydw i am aelodau iau'r maes, RET. Sut fyddet ti'n teimlo am gael dy seidleino? Fyddai hynny yn wneud fy job yn llawer haws.
Fel dw i wedi dweud, drosodd a throsodd, dw i'n barod i greu cylch defnyddwyr i unrhyw unigolyn neu grwp sy'n fodlon cymryd cyfrifoldeb drosto. Mae'n lot llai o hasl na delio gyda'r <i>fall out</i> o edeifion di-bwrpas, sbeitlyd a phlentynaidd fel hyn. (Yr ail un, i'r un diben, ti wedi dechrau heddi. Dw i'n gwybod bod Gwion yn 14 - beth yw dy esgus di?)