Diolch AD, mae'n braf clywed gan aelod newydd sy'n deall be dyn ni'n trial neud 'ma.
Mae dy bwyntiau di yn ddilys iawn, ac mae rhai ohonyn nhw wedi bod yng nghefn fy meddwl i ers tro, ond dw i wedi bod yn rhy fishi, neu'n rhy ddiog, i sorto nhw ma's. Mae 'na olau ar y gorwel, wir i ti, a bydd pethau yn newid cyn bo hir (cyn y Dolig, gobeithio) wrth i mi geisio rhoi'r maes ar sail mwy cadarn am y tymor hir.
Yn y bôn, i gyd dyn ni am wneud yw wneud maes-e yn haws i ddefnyddio, ac i fod yn glirach am beth sy'n derbyniol a beth sy ddim. I bobl sy wedi bod ar y we ers sbel, does dim angen esbonio rheolau "Netiquette", er enghraifft, ond mae lot o faeswyr yn eitha newydd i'r we, tybiwn i, a dyn ni'n gorfod mynd dros yr un tir drosodd a throsodd. Bai fi yw hyn, am beidio bod yn ddigon trefnus i osgoi problemau rhagweladwy, yn lle delio â nhw unwaith mae pethau yn cyrraedd y pwynt lle nad oes dewis 'da fi ond i gau cyfrifau a chloi edeifion.
Dyn ni gyd yn dysgu o hyd.
Gwers un: paid rhoi rheolaeth gwefan gymunedol yn nwylo anarchydd cadair freichiau.