eusebio a ddywedodd:Yn anffodus, nid yw llawer o'r cyber-teenagers neu myfyrwyr-ifanc-holl-wybodus ddim yn sylweddoli eu bod yn gwylltio'r rhan fwyaf o'r maes wrth wneud sylwadau hurt.
Efallai bod angen cychwyn ryw fath o ymgyrch 'name and shame'. Os ych chi'n gweld esiampl o drafodaeth gwirion ynghanol edefyn, neu brawddegau anealladwy, neu rywun yn taflu mwd, postiwch URL yr edefyn neu'r dyfyniad fan hyn, a gollwng linc i'r edefyn hwn yn yr edefyn wreiddiol. Mi fyddan nhw'n cael y neges yn ddigon cyflym, dwi'n siwr.