Tudalen 1 o 4

Maes-E Wedi Neidio'r Siarc?

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 7:38 pm
gan Macsen
Ai fi sydd yn mynd yn hen neu tydi o ddim yn bosib cael trafodaeth call ar Maes-E mwyach? Mae hyn wedi mynd yn gymaint o broblem yn ddiweddar dwi'n credu mai'r ffaith fod y fforwm yma'n gymraeg ydi'r unig beth sy'n fy nghadw i yma. Dyma rhai o'r problemau mwyaf amlwg:

Pobl yn Defnyddio'r Maes fel Siop Siarad. Peidiwch da chi a defnyddio edefyn fel ffordd o drafod y tywydd a'ch ffrindiau dros y we. Mae yna siop siarad fan hyn. Mae bron pob edefyn wedi ei ladd yn ddiweddar gan trafodaeth chwe tudalen ynghanol y sgwrs am rywbeth sydd ddim byd iw wneud a'r sgwrs.

Pobl ddim yn Prawfddarllen ei Negeseuon. Dwi'n deall bod cymraeg pawb ddim yn berffaith, ond mae rhai problemau gwirion dros ben yn dod i'r golwg ar y Maes dyddiau yma. Pobl yn defnyddio mwy nag un ebychiad ar ol brawddeg ( mae !!!!????!!!! Ffion Larsen yn dod i feddwl), pobl yn sgwennufelhyn, NEU FEL HYN, ac yn waeth byth brawddegau sydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbwl. Eiliad neu ddwy mae'n cymeryd i ddarllen dros eich gwaith, os yn unig i wneud yn siwr ei fod yn ddarllenadwy.

Casineb Maeswyr at ei Gilydd. Mae'n rhaid parchu hawl eich gilydd i gael barn gwahanol. Sdim angen dechrau taflu baw a galw pobl yn enwau. Mae'n wirion bost ac mae'n gwneud i chi edrych yn ddrwg.

A wnewch chi os gwelwch yn dda gadw hyn mewn meddwl cyn i chi ysgrifennu eich neges nesaf, er lles y Maes? :)

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 7:42 pm
gan Dr Gwion Larsen
Cytuno'n chwyrn :?

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 10:28 pm
gan Macsen
Dr Gwion Larsen a ddywedodd:Cytuno'n chwyrn :?


Ond yna rwyt ti'n mynd ymlaen i anwybyddu'r hyn yr wyt ti'n 'cytuno'n chwyrn' age ef yn hollol. :|

PostioPostiwyd: Llun 10 Mai 2004 10:31 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
OWWWWW Maxen,rwt t moooor sad?!?!?!?!!

(Teimlo fel Glenda Slagg nawr. Geddit?!!?!??!???!!!)

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 8:35 am
gan Mr Gasyth
Mae gan Macsen bwynt.

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 10:29 am
gan eusebio
Dwi'n cytuno'n llwyr efo Macsen, ac yn anffodus yn credu fod Dr Gwion, er ei fod yn cytuno, yn un o'r pobl sydd fwyaf euog o'r hyn sydd yn peri problem.

Mae Nic wedi creu safle anhygoel o lwyddianus yma ar y maes, ac wedi peri i llawer o bobl gyfathrebu ar y we yn y Gymraeg am y to cyntaf erioed.
Plis, plis, plis peidiwch gadael i ambell i cyber-teenager sbwylio'r cyfan.

Petai mwyu o bobl yn gyfrifol ac yn gofyn i'r rhai sy'n troseddu i beidio malu cachu yn gynt ac yn peidio ymateb i'r cach-falu, byddai'r broblem yn marw allan.

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 10:32 am
gan Mr Gasyth
Ia, anwybyddu yw'r ateb. Tydw i ddim yn meddwl i mi erioed ymateb i neges gan Dr Gwion nac unrhywun arall sydd yn tori ar draws edefion efo llwyth o rwtch. Byddai hyn jest yn eu hanog ymhellach.
Efallai dylid rhoi gwaharddiad dros dro i'r rhai sydd yn euog o hyn ac yn difetha maes-e i bawb arall.

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 10:44 am
gan Llewelyn Richards
Dwi di ffeindio bod hi'n bosibl cael trafodaeth ac anghytundeb boneddigaidd a deallus, ond mae'n prinhau.
Mae iaith ddiog, casineb plentynaidd maeswyr at ei gilydd, maeswyr sy'n siarad ar eu cyfer ac anwybodaeth rhai maeswyr wir yn fwrn ar adegau.
Lle mae'r ateb - faswn i ddim yn licio gweld ni'n cymedroli bob edefyn a phwnc a fyddai'n tarfu ar ffraethineb naturiol (Dan Jerus neu Sosij Fawr er enghraifft) ond hefyd dwi ddim eisiau gweld popeth yn suddo i rwtsh gwag chwaith.
Ar hyn o bryd felly, mae'r gwahardd am gyfnod i'w weld yn gobeithio - mae rhai i'r euogion wedi gwella gryn dipyn ers dychwelyd!

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 10:46 am
gan eusebio
Yn anffodus, nid yw llawer o'r cyber-teenagers neu myfyrwyr-ifanc-holl-wybodus ddim yn sylweddoli eu bod yn gwylltio'r rhan fwyaf o'r maes wrth wneud sylwadau hurt.

PostioPostiwyd: Maw 11 Mai 2004 10:50 am
gan Llewelyn Richards
Yndi mae'n broblem ehangach - does dim gwaeth na chael dadl efo rhywun sy'n gwbwl anwybodus am y pwnc dan sylw. Ond gan ei bod yn fforwm agored elli di ddim gwahardd pobl ar y sail ei bod nhw'n siarad rwtsh - dim ond am ymosodiadau personol. Felly, pam lai newid y canllawiau i wahardd rhywun sydd jesd yn blydi niwsans?