Maes-E Wedi Neidio'r Siarc?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Maw 11 Mai 2004 1:04 pm

Chwadan a ddywedodd:Ooooo, ma'r drafodaeth yma'n codi paranoia uffernol arnai (a dwi'n siwr mai nid fi di'r unig un) :(


Nid pwy sy'n gwneud hyn sy'n bwysig, ond ei bod nhw'n rhoi'r gorau iddi.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan dafydd » Maw 11 Mai 2004 1:05 pm

garynysmon a ddywedodd:Does yr un fforwm arall wedi bod, nac yn bodoli yr all Gymry Cymraeg gael cyfle i wneud hyn. Arwydd fod y Cymry yn ennill ychydig o hunan-hyder yw'r maes i mi, yn bersonol.

sic transit gloria

Dyw hyn ddim yn stori newydd. Nid maes-e yw'r fforwm cymraeg cynta ar y we (neu y rhyngrwyd yn gyffredinol) a nid maes-e fydd yr olaf. Mae bob un fforwm sydd wedi bodoli yn dechrau'n fach ac yn 'gysurus' yna'n cynyddu yn ei boblogrwydd a dyna'r lle mae problemau yn dechrau. Mae'n anodd cael cymysgedd o oedran a diddordebau mewn un gwefan neu grwp trafod (hyd yn oed os adrannau a pynciau wedi ei gosod allan).

Mae siaradwyr saesneg yn delio gyda hyn drwy greu nifer o grwpiau trafod (neu wefannau yn y dull fodern) i rannu pobl yn ol diddordeb. Ond mae yna feddylfryd (gwirion) wedi bod gyda'r cymry fod rhaid sticio gyda'n gilydd a jyst cael un grwp mawr monolithig. Mae yna le i fforymau arall, mwy arbennigol (mae Gwleidyddiaeth yn un amlwg)... nid i farnu na cystadlu (ha) gyda maes-e ond er mwyn creu gofod i drafodaethau llawnach.

Un o'r pethau drwg gyda ffurf maes-e yw'r 'negesuon newydd' gythreulig. Mae'n dangos pob neges ymhob fforwm felly mae'n hawdd i rywun swnllyd pigo mewn i bob sgwrs heb yr ymroddiad na'r dealltwriaeth o'r pwnc sy'n cael ei drafod. Mae cael gwefannau ar wahan yn debygol o leihau y patrwm yna, a mi fyddai'n gyfle i rai sydd am drafodaeth fywiog ond call osod rheolau mwy cadarn (neu ffasgaidd os mynnwch chi) ar y defnyddwyr.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan mogwaii » Maw 11 Mai 2004 1:36 pm

beth fi'n methu deall yw pam yn y byd ma fe'n becso chi gyd shwt gymaint?na gyd yw maes e yw. fforwm. trafod. ar. y. we. ond chi'n trafod e fel taw dyma'r peth pwysica yn eich bywyd chi.rhyw fath o "be sy'n digwydd i'n cymdeithas fach ni?" dos bosib ma pethe pwysicach i bobol mewn oed i ofidio amdano na faint o farciau cwestiwn ma rhyw exitable teenager yn rhoi ar ol brawddeg?
Rhithffurf defnyddiwr
mogwaii
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 224
Ymunwyd: Maw 28 Hyd 2003 2:56 pm
Lleoliad: caerdydd

Postiogan eusebio » Maw 11 Mai 2004 1:40 pm

mogwaii a ddywedodd:beth fi'n methu deall yw pam yn y byd ma fe'n becso chi gyd shwt gymaint?na gyd yw maes e yw. fforwm. trafod. ar. y. we. ond chi'n trafod e fel taw dyma'r peth pwysica yn eich bywyd chi.rhyw fath o "be sy'n digwydd i'n cymdeithas fach ni?"

Fforwm trafod - ia - yn union - trafod.
Ond mae'n anodd trafod pa fo rhywun yn dod i fyny efo neges plentynaidd fyddai'n swnio'n anaeddfed yn iard ysgol gynradd!
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Aran » Maw 11 Mai 2004 1:47 pm

cytuno'n llwyr efo dafydd. poen tyfu anochel ydy hyn, a bydd gwefannau trafod (Cymraeg) eraill yn dilyn ôl-draed Maes-E...

syniad tebyg oedd y tu ôl i Straeon.com - y byddai pobl sydd am drafod sgwennu (neu hyd yn oed yn sgwennu!) yn cael lle gyda mwy o ffocws ar ran defnyddwyr... eithaf tawel hyd yn hyn, ond mae'r 'gofod' yna pe bai pobl yn dechrau teimlo bod ei angen...

ac mae Unarddeg.com yn enghraifft da, llwyddiannus...

mae'r meddalwedd yna, mae'r cyfieithu wedi'i wneud (diolch i Nic a chriw Maes-E ar gyfer phpBB, ac i Gruff Coch ar gyfer phpnuke) - mae'n haws bob dydd (bron!) i ddechrau wefan Gymraeg... amdani felly!

a'r Maes... wel, ella bydd y rheolau'n tynhau? nifer o'r cymunedau mwyaf llwyddiannus ydy'r rhai sydd wedi darganfod bod angen lefel eithaf cryf o lywodraethu er mwyn cadw'r cyfraniadau'n werthchweil... neu efallai bydd hunan-lywodraethu'n dal i fyny gyda'r sefyllfa presennol...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Mr Gasyth » Maw 11 Mai 2004 2:11 pm

Dafydd a ddywedodd:Un o'r pethau drwg gyda ffurf maes-e yw'r 'negesuon newydd' gythreulig. Mae'n dangos pob neges ymhob fforwm felly mae'n hawdd i rywun swnllyd pigo mewn i bob sgwrs heb yr ymroddiad na'r dealltwriaeth o'r pwnc sy'n cael ei drafod.


Cytuno...i raddau. Yr ateb i'r holl broblemau sydd wedi'w crybwyll ydi hunan-reolaeth gan aelodau unigol y maes. Mae yna ormod o bobl sy'n teimlo fod rhaid iddyn nhw gael eu pig i mewn i bob trafodaeth, yn hytrach na gwneud cyfraniad call ac adeiladol i jest un neu ddau.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Barbarella » Maw 11 Mai 2004 2:26 pm

Un ateb posib, a drafodwyd o'r blaen, ydi system karma -- sef y gallu i rhoi sgôr i negeseuon / unigolion eraill ... os ydi pobl yn gwerthfawrogi eich cyfraniadau, bydd gennych chi sgôr karma uwch. Yn sgîl hynny, daw'r posibilrwydd o ddewis anwybyddu negeseuon / aelodau sydd â sgôr karma isel.

Mae hyn yn debyg o ddod yn fersiwn newyd phpBB, ond dyw hynny ddim am weld golau dydd am rai misoedd, o leia.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan Dylan » Maw 11 Mai 2004 3:02 pm

'Dydi'r syniad yna ddim yn apelio i mi yn bersonol o gwbl. Gall hyd yn oed defnyddiwr gwael gael lot o ffrindiau ar y maes sy'n fodlon rhoi sgôr dda iddo neu be' bynnag.

'Dw i yn postio ar nifer o negesfyrddau ac mae'r edefynau yma yn gyffredin iawn ar bron iawn pob un. Mae'n anochel bod holltau am ymddangos wrth i gymuned dyfu.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan nicdafis » Maw 11 Mai 2004 3:29 pm

Rhaid dweud bod yr edefyn hwn yn rhoi mwy o obaith i fi na dim byd dw i wedi darllen ar y maes yn diweddar, a dw i'n cytuno â phawb call uchod sy'n sylweddoli nad yw'n bosib i wefan o'r fath hyn cario ymlaen am byth heb newid ei natur, a newid ei rheolau. Bydd y ddau beth yn parhau i ddigwydd ar maes-e, fel maen nhw wedi wneud ers Awst 2002.

Yn y dyddiau hynny oedd wir angen gwefan fel maes-e. Y dyddiau hyn, mae wir angen <b>mwy o wefannau fel maes-e</b>.

Cytunaf yn llwyr â beth dwedodd dafydd ynglŷn ag obsesiwn y Cymry â maint pethau. Bron bob tro dw i'n siarad am y maes â rhywun o'r cyfryngau, y peth cynta maen nhw eisiau gwybod yw "faint o <i>hits</i> dych chi'n cael bob dydd". Fy ateb arferol yw "gormod".

Bydd rheolau newydd yn cael eu datblygu. Bydd yn fwy anodd i ymuno er mwyn achosi trwbl (dw i'n cysidro cael rhestr aros, neu cyfnod prawf, neu siarso am gyfrifau newydd - i gyd yn ddulliau sy wedi eu profi ar negesfyrdd eraill). Bydd pobl yn cwyno am hyn, hefyd ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Wierdo » Mer 19 Mai 2004 9:18 pm

yn anffodus, dwin eitha sicr bo fin un o'r rhai niwsans na sy'n mwydro, a man wir ddrwg gin i os di hynnyn eich gwylltio chi. y peth ydi, person felna ydwi, dwin neud hyna wrth sharad fo bobl bethbynnag (h.y. mwydro...) Dwin trio cadw'r rhan fwyaf o'r mwydro un edefyn (eithaf hawdd dyfalu p'ryn..!)

Dwin un o'r rhai sydd yn teipion fler hefyd....sori

:wps: :wps: :wps:
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 17 gwestai

cron