Ai fi sydd yn mynd yn hen neu tydi o ddim yn bosib cael trafodaeth call ar Maes-E mwyach? Mae hyn wedi mynd yn gymaint o broblem yn ddiweddar dwi'n credu mai'r ffaith fod y fforwm yma'n gymraeg ydi'r unig beth sy'n fy nghadw i yma. Dyma rhai o'r problemau mwyaf amlwg:
Pobl yn Defnyddio'r Maes fel Siop Siarad. Peidiwch da chi a defnyddio edefyn fel ffordd o drafod y tywydd a'ch ffrindiau dros y we. Mae yna siop siarad fan hyn. Mae bron pob edefyn wedi ei ladd yn ddiweddar gan trafodaeth chwe tudalen ynghanol y sgwrs am rywbeth sydd ddim byd iw wneud a'r sgwrs.
Pobl ddim yn Prawfddarllen ei Negeseuon. Dwi'n deall bod cymraeg pawb ddim yn berffaith, ond mae rhai problemau gwirion dros ben yn dod i'r golwg ar y Maes dyddiau yma. Pobl yn defnyddio mwy nag un ebychiad ar ol brawddeg ( mae !!!!????!!!! Ffion Larsen yn dod i feddwl), pobl yn sgwennufelhyn, NEU FEL HYN, ac yn waeth byth brawddegau sydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbwl. Eiliad neu ddwy mae'n cymeryd i ddarllen dros eich gwaith, os yn unig i wneud yn siwr ei fod yn ddarllenadwy.
Casineb Maeswyr at ei Gilydd. Mae'n rhaid parchu hawl eich gilydd i gael barn gwahanol. Sdim angen dechrau taflu baw a galw pobl yn enwau. Mae'n wirion bost ac mae'n gwneud i chi edrych yn ddrwg.
A wnewch chi os gwelwch yn dda gadw hyn mewn meddwl cyn i chi ysgrifennu eich neges nesaf, er lles y Maes?