Maes-E Wedi Neidio'r Siarc?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Maw 11 Mai 2004 11:03 am

eusebio a ddywedodd:Yn anffodus, nid yw llawer o'r cyber-teenagers neu myfyrwyr-ifanc-holl-wybodus ddim yn sylweddoli eu bod yn gwylltio'r rhan fwyaf o'r maes wrth wneud sylwadau hurt.


Efallai bod angen cychwyn ryw fath o ymgyrch 'name and shame'. Os ych chi'n gweld esiampl o drafodaeth gwirion ynghanol edefyn, neu brawddegau anealladwy, neu rywun yn taflu mwd, postiwch URL yr edefyn neu'r dyfyniad fan hyn, a gollwng linc i'r edefyn hwn yn yr edefyn wreiddiol. Mi fyddan nhw'n cael y neges yn ddigon cyflym, dwi'n siwr. :)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan pogon_szczec » Maw 11 Mai 2004 11:24 am

Dwi ddim yn meddwl bod atebion pigog ac eithafol yw'r problem.

(fel fy rhai i sbo)

O leiaf y maent yn sbarduno dadl.

(Tase RET ddim yn gweud unrhywbeth yn erbyn hoywon, base dim byd i'w trafod.)

Dwi'n gweld lle hyd yn oed i sylwadau Sioni Spart (Size).

O leiaf mae da fe rywbeth i weud, a mae'n bosibl deall (i ryw raddau) beth mae'n son amdano.

Prif broblem y maes, ac unig problem difrifol y maes yn fy marn yn tarddu o un ffynhonnell yn unig.

Mae unrhyw bwyntiau o bwys mewn dadleuon yn cael eu boddi mewn mor o rwtsh plentynaidd anealladwy wedi'u sgwenu gan ..............

Sdim rhaid i fi fynd ymhellach.

A gyda llaw gallaf gyfrannu yn gall os dwi ishe, byddaf yn gwneud ymdrech i fod yn fwy meddylgar fy hun...........
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan garynysmon » Maw 11 Mai 2004 11:31 am

Dwi'm yn siwr os ydi i'n syrthio fewn i gategori 'myfyrwyr ifanc holl-wybodus' Eusebio neu beidio, ond dyna ni.
Dwi'n dueddol o gytuno gyda Macsen yn gadarn ar y cyfan. A dwi yn dueddol o sylweddoli mai yn diweddar y mae sawl o'r ffactorau yma wedi codi yn ffenomenon, ar y cyfan. A ydi o i gyd i wneud efo poblogrwydd cynyddol y Maes, a bod mwy o bobol yn ymuno felly y tebygolrwydd o gael prats anwybodus yn cynyddu hefyd?
Yn sicr mae'r lle wedi newid ers i mi ymuno (Gorffenaf 2003), ond dwi'n credu nid oes bai ar neb, ac yn sicr nid y rheolwyr. Un o'r pethau prydferthaf am y maes ydi y gwahaniaeth sydd rhwng y rhan fwyaf ohonom. Does yr un fforwm arall wedi bod, nac yn bodoli yr all Gymry Cymraeg gael cyfle i wneud hyn. Arwydd fod y Cymry yn ennill ychydig o hunan-hyder yw'r maes i mi, yn bersonol.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan mam y mwnci » Maw 11 Mai 2004 11:35 am

Cytunno 100% - ond dwi'n credu mai'r negeseuon lled breifat sy'n fy ngwylltio i fwyaf. hy - ymateb fel "doeddet ti ddim yn deud hyna yn y pub nos sadwrn!" - dwi'n siwr fod hyn yn ddoniol iawn i chi sy'n nabod eich gilydd, ond os am fynd ar y trywydd yma , fedrwch chi rannu'r joc efo weddill y maeswyr? Diolch.

Hwyl a ffags
xx
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan eusebio » Maw 11 Mai 2004 11:54 am

mam y mwnci a ddywedodd:... dwi'n credu mai'r negeseuon lled breifat sy'n fy ngwylltio i fwyaf. hy - ymateb fel "doeddet ti ddim yn deud hyna yn y pub nos sadwrn!" ...


Fel ddywedodd GDG sawl mis yn ôl:
Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Trefnwch fore coffi y ffycars
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Ramirez » Maw 11 Mai 2004 12:18 pm

Cytuno. Ma shwr bo fi'n un o'r 'stiwdants anoing', a dwi'n euog o fwydro oddi ar y pwnc, ond dwin trio peidio yn y rhai lle mae na drafodaeth iawn yn mynd ymlaen. Yn tydw i'n gydwybodol ac yn wych.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan eusebio » Maw 11 Mai 2004 12:21 pm

Ramirez, Garynysmon - Peidiwch a bod yn paranoid, tydw i ddim yn meddwl amdana chi yn fy rant uchod.

Mae gen i un neu ddau enw yn fy meddwl, ond dyna lle maent am aros am y tro - o ran y cyber-teenagers ... wel, does dim rhaid enwi neb nagoes ...
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Macsen » Maw 11 Mai 2004 12:26 pm

Na, doeddwn i ddim yn meddwl am Ramirez na Garynysmon chwaith. Mae nhw ymhlith yr mwyaf aeddfed ar y Maes. Cofiwch nad ydi'r sylwadau yma wedi' anelu tuag at yr rhai mwyaf niwsans yn unig. Mae nifer o faewyr sydd fel arall yn hollol gall ag aeddfed yn colli' meddwl o bryd iw gilydd.

Dyw'r math yma o edefyn ddim yn ddiethr i unrhyw fforwm. Ar bron pob un fforwm dw i wedi postio arni, ar ryw bwynt roedd rhaid i bawb eistedd lawr a edrych yn fanwl ar beth sydd o'i le ac angen ei wella. Fel arfer mae'r broblem yn diflannu, ac mae'r fforwm yn mynd yn ei flaen.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Ramirez » Maw 11 Mai 2004 12:50 pm

Macsen a ddywedodd:Mae nhw ymhlith yr mwyaf aeddfed ar y Maes.


Ceilliau gafr, gyfaill.

Dwin meddwl bo fi'n gwbod pwy sgonchi dan sylw 'fyd 8)
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.
Rhithffurf defnyddiwr
Ramirez
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4642
Ymunwyd: Sul 24 Tach 2002 5:52 pm
Lleoliad: Penlan dy Fam

Postiogan Chwadan » Maw 11 Mai 2004 12:52 pm

Ooooo, ma'r drafodaeth yma'n codi paranoia uffernol arnai (a dwi'n siwr mai nid fi di'r unig un) :(
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron