Mae sylwadau diweddaraf Nic ar Morfablog yn haeddu trafodaeth yma.
Dwi'n tueddu cytuno â syniadau Nic ac Ifan.
bartiddu a ddywedodd:Odi torri lawr ar nifer o'r pwnciau trafodaeth yn mynd i gael unrhyw effaith?
Gwneud Maes-e yn drafodfan gwleidyddiaeth e.e.?
A gadael i faeswyr sydd a diddordebau arall drefni gwneud meusydd priodol eu hunain yn dibynnu ar ba pynciau sydd o diddordeb iddynt?
Linc - Faes-E-Chwareon a Maes-E-Cerdd? e.e.
Awgrymiad na'i gyd.
eusebio a ddywedodd:bartiddu a ddywedodd:Odi torri lawr ar nifer o'r pwnciau trafodaeth yn mynd i gael unrhyw effaith?
Gwneud Maes-e yn drafodfan gwleidyddiaeth e.e.?
A gadael i faeswyr sydd a diddordebau arall drefni gwneud meusydd priodol eu hunain yn dibynnu ar ba pynciau sydd o diddordeb iddynt?
Linc - Faes-E-Chwareon a Maes-E-Cerdd? e.e.
Awgrymiad na'i gyd.
Ond os mai'r fforwm gwleidyddiaeth sydd yn peri'r rhan fwyaf o'r broblem, pam ei adael yn agored?
Fel cymredolwr y seiat Chwaraeon allai dy sicrhau di nad oes problem o gwbwl ag ymddygiad o fewn y fforwm, ac mae'n rhyfeddol o fywiog yno hefyd.
Macsen a ddywedodd:Yr ateb mwyaf syml bosib fysa' i roi terfyn ar y nifer o negeseuon mae posib ei postio mewn diwrnod. Dw i'n gwybod fod hyn yn bosib. Mi fysai hyn yn cael yr effaith o A) Mwy o feddwl yn mynd mewn i bob neges, a B) Bydd ddim posib defnyddio Maes-E fel siop siarad.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai