Cau Maes E ydy'r Ateb?

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan RET79 » Maw 18 Mai 2004 1:04 pm

Aled a ddywedodd:Ond rhaid cael rhywfaint o gysondeb, neu fel arall bydd pobl yn gwneud penderfyniadau ar sail personoliaethau neu farn yn hytrach nag ar sail y rheolau. Ma hyn eisioes wedi digwydd yng nghylch RET


Dim angen cysondeb a seiatau eraill os oes gen ti gylch. Yn y byd go iawn mae pobl yn cael eu gwrthod ar sail eu personoliaeth yn ddyddiol, felly siarad wast yw hynna, sori. Fedri di ddim rhoi'r cyfan lawr mewn rheolau ond mae'n ddigon teg gwahardd person sy'n byhafio'n groes i ddibenion y cylch.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 18 Mai 2004 1:51 pm

Dyma'r rheswm dwi'n casau'r syniad o gylchoedd RET a Larseniad, nid mater o dorri rheolau yw mynediad neu cael eich taflu allan, ond mae'n ddibynol ar pa mor boblogaid ydych chi yn llygaid RET neu Gwion.

Dwi'n meddwl y dylai'r ddau gylch cael eu dleu yn syth - a dylid gweithio yn galed i geisio sicrhau cymedrolwyr teg i blismona holl adrannau'r Maes.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan RET79 » Maw 18 Mai 2004 2:09 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Dyma'r rheswm dwi'n casau'r syniad o gylchoedd RET a Larseniad, nid mater o dorri rheolau yw mynediad neu cael eich taflu allan, ond mae'n ddibynol ar pa mor boblogaid ydych chi yn llygaid RET neu Gwion.

Dwi'n meddwl y dylai'r ddau gylch cael eu dleu yn syth - a dylid gweithio yn galed i geisio sicrhau cymedrolwyr teg i blismona holl adrannau'r Maes.


Wneith o ddim gweithio - mae cymedroli unffurf wedi cael ei drio ac wedi methu.

Pam fod cylchoedd yn gymaint o fygythiad i ti? Falle ti'n anhapus ti heb gael gwahoddiad i'r cylch trafod?

Nid bod yn deg a cynnwys pawb yw pwrpas y cylchoedd: pwrpas y cylchoedd yw gwireddu nod y gylch. Os yw hynna'n golygu gwrthod rhai ar y drws, neu gicio rhai allan, felna mae hi.

Gei di'r un driniaeth mewn unrhyw gymdeithas arall o fewn cymdeithas.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Maw 18 Mai 2004 2:28 pm

Y broblem ydi bod cymeradoli RET yn mynd yn erbyn nod y cylch ei hun. Cylch trafod ydi hi fod, i gadw allan yr rheini sy'n spammio gweddill y Maes. Mi gafodd Dylan ei gicio allan am anghytuno a RET, a finnau am geisio amddiffyn Dylan. Doedd hyn ddim o blaid 'trafod', ond oherwydd bod gan RET ryw fath o gasineb bach plentyniadd tuag ataf fi a Dyl. Mae'n biti garw; roedd gan y cylch y potensial i ddatrus nifer o broblemau'r Maes. :(
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Maw 18 Mai 2004 2:39 pm

Macsen a ddywedodd:Y broblem ydi bod cymeradoli RET yn mynd yn erbyn nod y cylch ei hun. Cylch trafod ydi hi fod, i gadw allan yr rheini sy'n spammio gweddill y Maes. Mi gafodd Dylan ei gicio allan am anghytuno a RET, a finnau am geisio amddiffyn Dylan. Doedd hyn ddim o blaid 'trafod', ond oherwydd bod gan RET ryw fath o gasineb bach plentyniadd tuag ataf fi a Dyl. Mae'n biti garw; roedd gan y cylch y potensial i ddatrus nifer o broblemau'r Maes. :(



Nonsens llwyr, gan fod y rhan fwyaf o bobl sydd yn y cylch yn anghytuno a fy marn ar bron pob pwnc, ond dwi ddim wedi cicio nhw allan gan fod y ffordd mae nhw'n byhafio yn cydfynd a nod y cylch (fy ddiffiniad i, ddim dy gam-ddiffiniad di uchod. Yn amlwg os mai dyna dy ddiffiniad di o'r nod doeddet ti heb ddarllen 'nod y cylch', felly sdim rhyfedd ti wedi cael cic owt). Eich colled chi yw hi.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Maw 18 Mai 2004 2:44 pm

Allet ti felly bostio 'nod y cylch' yma ac esbonio lle yn union mae Dylan a fi wedi mynd yn anghywir? Dwyt ti dal heb roi esboniad clir i ni pam y cafon ni ein taflu oddiar y cylch (yn wir, ni wnesti hyd yn oed gyrru negeseuon atyn ni i ddweud ein bod ni wedi cael ein cicio). :?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Barbarella » Maw 18 Mai 2004 2:44 pm

RET79 a ddywedodd:Yn y byd go iawn mae pobl yn cael eu gwrthod ar sail eu personoliaeth yn ddyddiol, felly siarad wast yw hynna, sori.

Ond nid y byd go iawn ydi hyn, ac mae'n berffaith deg i ni obeithio am safonau gwahanol ar y Maes.

Wedi dweud hynny, does gen i ddim problem efo cylchoedd gwahanol yn datblygu, os oes galw amdanynt. Mae RET wedi gofyn am gylch, ef sy'n gyfrifol amdano, ef sy'n dewis pwy sy'n aelod. Union yr un ffordd mae dy gylch Cymdeithas yr Iaith di'n gweithio, Hedd :winc:

Dwi ddim yn siwr am symud holl fforymau'r Maes mewn i gylchoedd -- bydd hynny'n golygu bod aelod newydd yn gweld dim byd o gwbl, ac felly heb fawr o gymhelliad i aros!

Ond sdim problem efo grwpiau arbenigol yn ffurfio, boed nhw'n arbenigo o ran pwnc, rheolau trafod neu math o bobl... falle welwn ni Gylch Hoyw a Lesbiaidd i herio un RET cyn bo hir :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan RET79 » Maw 18 Mai 2004 2:51 pm

Ond nid y byd go iawn ydi hyn, ac mae'n berffaith deg i ni obeithio am safonau gwahanol ar y Maes.


dal di i freuddwydio, ond gei di ddim safonau heb wneud penderfyniadau anodd

Mae RET wedi gofyn am gylch, ef sy'n gyfrifol amdano, ef sy'n dewis pwy sy'n aelod. Union yr un ffordd mae dy gylch Cymdeithas yr Iaith di'n gweithio, Hedd :winc:


Clasur.

Dwi ddim yn siwr am symud holl fforymau'r Maes mewn i gylchoedd -- bydd hynny'n golygu bod aelod newydd yn gweld dim byd o gwbl, ac felly heb fawr o gymhelliad i aros!


Ddim dyna dwi'n galw amdano. Mwy o gylchoedd a llai o fforymau cyhoeddus dwi'n meddwl yw dyfodol y maes.

A mae croeso i hoywon a lesbiaid i'r cylch trafod, fel sydd na in unrhywun arall sydd yn fodlon ymddwyn yn y modd priodol.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Barbarella » Maw 18 Mai 2004 2:54 pm

Macsen a ddywedodd:Allet ti felly bostio 'nod y cylch' yma ac esbonio lle yn union mae Dylan a fi wedi mynd yn anghywir? Dwyt ti dal heb roi esboniad clir i ni pam y cafon ni ein taflu oddiar y cylch (yn wir, ni wnesti hyd yn oed gyrru negeseuon atyn ni i ddweud ein bod ni wedi cael ein cicio). :?

Nid edefyn am rinweddau neu gwendidau cylch RET ydi hwn. RET sy'n rheoli yn ei gylch ei hun -- dyna'r pwynt. Os nag ych chi'n hoffi'r rheolau yna, peidiwch ymuno. Dyna'r gwahaniaeth rhwng y cylchoedd a'r seiadau arferol, a bydd y system carma newydd yn pwysleisio'r gwahaniaeth yna'n fwy eto -- unben sy'n rheoli mewn cylch (er gwell neu gwaeth), y gymuned sy'n rheoli yn y fforymau agored.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan RET79 » Maw 18 Mai 2004 3:12 pm

Yn union Barbarella.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai