Graddio a Charma

Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes
Rheolau’r seiat
Oes angen Seiat neu Gylch newydd? Nodwch eich syniadau ar sut i ddatblygu'r maes. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan RET79 » Iau 20 Mai 2004 5:21 pm

Barbarella, ymddiheuriadau os mai dyma'r lle anghywir i ofyn y cwestiwn, ond beth yn union yw diben y peth? Fydd cael sgor gwael yn golygu fod chi'n banio pobl? Os ddim, yna braidd yn wastraff amser ddweda i.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan fela mae » Iau 20 Mai 2004 8:10 pm

Bydd rhaid bod yn ofalus nad ydym yn colli aelodau. Ma na rai yn ceisio cyfrannu yn ddeallus ac ati i'r maes ond er eng dwi ddim mor addysgiadol ac aelodau eraill o'r maes ac weithiau ma'r pethe dwi'n ceisio ei ddwued yn dod drosto bach yn dwp hyd yn oed os faswn in darllen drosto yn ofalus.. a dwi ddim isio cal fy marnu yn ddi werth bob tro am hynny.

A fyddai neges breifat gan aelod or maes i unigolyn sy'n trio amharu ar drafodaeth yn well syniad - h.y bod aelod o'r maes yn rhoi cyngor bach i aelod arall i stopio.

Os nad ydy'r person yna yn cymryd y cyngor ac yn cario mlaen i dorri ar drafodaethau fe alle y person a roddodd y cyngor ddweud wrth Nic. Ca'l carden felen fel petai ond ma Nic yw'r unig un all roi y garden goch ??
wyt ti'n fy herio i y Meri Jen ??
Rhithffurf defnyddiwr
fela mae
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 504
Ymunwyd: Sul 26 Hyd 2003 3:06 pm
Lleoliad: Penrhyn-Coch, Bangor

Postiogan Leusa » Iau 20 Mai 2004 8:36 pm

A fyddai neges breifat gan aelod or maes i unigolyn sy'n trio amharu ar drafodaeth yn well syniad - h.y bod aelod o'r maes yn rhoi cyngor bach i aelod arall i stopio.


Y broblem hefo hyn ydi fod o'n digwydd ers erioed, ma'n drafferth i'r cymedrolwyr, ac yn fwy penodol i Nic. Fel y dywedodd o'n ddiweddar, ma'n cymryd cymaint o amser i sortio problemau ac unigolion nes nad ydio'n cael amser i fwynhau'r lle.
Mae'r ffaith bod pawb yn helpu i reoli'r broblem yn llai o faich ar unigolion.
Trystiwch nhw, ma hyn yn syniad da - dos na'm dewis arall, unai rhaid cal y newidiadau yma neu cau'r maes am byth bythoedd amen... :?
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan RET79 » Iau 20 Mai 2004 9:22 pm

fela mae a ddywedodd:A fyddai neges breifat gan aelod or maes i unigolyn sy'n trio amharu ar drafodaeth yn well syniad - h.y bod aelod o'r maes yn rhoi cyngor bach i aelod arall i stopio.

Os nad ydy'r person yna yn cymryd y cyngor ac yn cario mlaen i dorri ar drafodaethau fe alle y person a roddodd y cyngor ddweud wrth Nic. Ca'l carden felen fel petai ond ma Nic yw'r unig un all roi y garden goch ??


Dwi'n dechrau cytuno hefo'r syniad yma o gymedrolwyr yn gweithio fel haen o dan Nic, gyda Nic a'r dweud olaf mewn achosion mwy difrifol.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Leusa » Iau 20 Mai 2004 10:32 pm

ti di gofyn iddo fo os dio isho'r hasl?!
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan RET79 » Iau 20 Mai 2004 10:34 pm

Leusa a ddywedodd:ti di gofyn iddo fo os dio isho'r hasl?!


eh?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Aran » Gwe 21 Mai 2004 7:29 am

brenin alltud a ddywedodd:Amau mai'r unig rai fydd yn fotio yw'r rhai sy'ngyfranwyr cyson i'r seiadau trefnu / rheoli / meistroli 'ma - fel fi o bosib! Ond nid y rhai sy'n naturiol ffraeth, na fydd yn trafferthu fotio.


dw i'n siwr nad wyt ti ddim yn ei fwriadu felly, ond mae hynny'n taro fi bach yn chwithig, fel taset ti'n deud bod y rhai sydd am weld trafodaeth gwerthchweil yn methu mwynhau ffraethineb... sef cyhuddiad sy'n cael ei daflu at Nic yn eithaf aml, weithia gan bobl sydd ddim yn deall sut mae o'n methu'r gwerth amlwg i 'ffwcio chdi a dy fam, gont' ayyb...

dw i'n disgwyl y bydd 'amrywiaeth/ creadigrwydd/ anwadalrwydd/ dyfeisgarwch' a ballu'n cael eu gwobrwyo gan y sustem - a fela mae, nid rhywbeth i orfodi pawb i orffen gradd yn y Gymraeg cyn cyfrannu bydd hyn! amcan y neges, yn anad dim, bydd yn bwysig - os ydy rhywun yn malu cachu er mwyn malu cachu mewn seiat lle mae pobl eraill yn trio cynnal dadl, mi gawn nhw eu cosbi, 'na i gyd.

ond cofia, dydy cael y nifer mwyaf o aelodau posib erioed wedi bod yn flaenoriaeth i Nic, hyd y gwn i!

gwerth cofio, efallai, os eith y Maes i fewn i ryw fath o meltdown oherwydd hyn, tebyg y byddai 'na ail-feddwl... :winc: ond mae hyn yn llawer iawn gwell na Nic yn cael llond bol unwaith ac am byth a chau'r lle i lawr, 'tydy?

beth am i ti gynnig fod yn gymedrolwr, Brenin? byddet ti'n gwneud job da ohoni...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan brenin alltud » Gwe 21 Mai 2004 7:59 am

Nes i ymateb i hwn tua hanner awr yn ol, ond nawr mae wedi diflannu. Hyh?
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Aran » Gwe 21 Mai 2004 8:48 am

brenin alltud a ddywedodd:Nes i ymateb i hwn tua hanner awr yn ol, ond nawr mae wedi diflannu. Hyh?


mmm... ella bo chdi'n iawn am i'r Maes mynd yn 'sbwci', 'de... :winc:

dydw i ddim wedi dileu dim byd - hicyp yn y cronfa ddata, mae'n siwr. neu oeddet ti'n rhegi'n uffernol?...!
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Barbarella » Gwe 21 Mai 2004 8:51 am

RET79 a ddywedodd:Dwi'n dechrau cytuno hefo'r syniad yma o gymedrolwyr yn gweithio fel haen o dan Nic, gyda Nic a'r dweud olaf mewn achosion mwy difrifol.


Dyna'n union ydi'r sefyllfa nawr ddo, ac yn anffodus dyw hi ddim yn sefyllfa sy'n gallu parhau am byth. Yn aml iawn, bydd cymedrolwr yn gwneud rhywbeth, y defnyddiwr yn cymryd mai Nic sydd wedi gwneud, ac yn gyrru negeseuon ato yn dweud ei fod o'n ffasgydd. :rolio:

Yr ychwanegiad arall sydd ar y gweill yw botwm "adrodd" i dynnu sylw'r cymedrolwyr / gweinyddwyr at broblem, fel y gallan nhw rhannu'r baich o ddelio ag e, yn lle bod pawb yn pestro Nic yn uniongyrchol efo negeseuon preifat.
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

NôlNesaf

Dychwelyd i Datblygu maes-e

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 10 gwestai