Ychydig o graffiau i chi wedi eu creu o ystadegau maes-e:
Cynnydd y negeseuon - y linell goch yw'r tuedd dros amser ond dwi ddim yn credu fod hyn yn gywir iawn eto.. mae'r nifer bob mis yn eitha sefydlog ers dechrau 2004.
Nifer yr aelodau newydd bob mis - eto mae cyfartaledd cyson o tua 60 ers canol 2003 (heblaw lle roedd y maes ar gau wrth gwrs)
Cyfanswm nifer yr aelodau - mae'r llinell goch yn dangos y tuedd sydd yn dangos yn gliriach y cynnydd sefydlog yn yr aelodau bob mis. Yn ôl hwn fe fydd yr aelodaeth yn 1,500 erbyn Tachwedd 2005.